Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sut i apelio rhybudd talu cosb (dirwy barcio)


Summary (optional)
start content

Mae gennych hawl i herio rhybudd talu cosb (dirwy am barcio) os credwch y cafodd ei rhoi yn anghywir.

Cam Un – Her Anffurfiol

Cysylltwch â ni i ddweud wrthym pam y credwch fod y gosb yn anghywir. Gallwch wneud hyn:

  • ar y wefan hon gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein:

 

Sicrhewch eich bod yn cynnwys rhif y rhybudd talu cosb a’ch enw a chyfeiriad ar bob gohebiaeth. Gallwch hefyd gynnwys lluniau a dogfennau i gefnogi eich her.

Os byddwch yn cyflwyno her o fewn 14 diwrnod, byddwn yn dal y gosb yn ôl nes byddwn yn ymateb. Mae hyn yn golygu os na dderbyniwn eich her, gallwch o hyd dalu’r gyfradd â disgownt.

Os ysgrifennwch atom ar ôl y cyfnod disgownt o 14 diwrnod, rydych yn atebol am dalu’r swm llawn os na chaiff eich tocyn ei ganslo.

Byddwn yn ymateb i chi ac yn gadael i chi wybod os ydym yn derbyn eich her ai peidio.

  • Os byddwn yn derbyn, byddwn yn canslo’r gosb.
  • Os byddwn yn gwrthod eich her, gallwch dderbyn hyn a thalu'r gosb, neu wneud apêl ffurfiol (gweler Cam Dau).

 

Cam Dau – Apêl Ffurfiol

Os na fyddwn yn derbyn eich her, gallwch wneud apêl ffurfiol (a elwir hefyd yn gynrychiolaeth ffurfiol).

I wneud hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen Hysbysiad i’r Perchennog (NtO). Rydym yn anfon hwn at berchennog cofrestredig y cerbyd os na chaiff y rhybudd talu cosb ei dalu o fewn 28 niwrnod o’i ddyddiad cyhoeddi.

Os nad chi yw'r perchennog cofrestredig ond eich bod eisiau gwneud apêl ffurfiol, bydd angen i chi ofyn i’r perchennog cofrestredig am y ffurflen Hysbysiad i’r Perchennog. Mae yna adran ar y ffurflen lle gallwch roi eich manylion.

Byddwn yn anfon ymateb ysgrifenedig i'ch apêl ffurfiol.

  • Os byddwn yn ei derbyn, byddwn yn canslo’r rhybudd talu cosb.
  • Os byddwn yn gwrthod eich apêl, gallwch ddewis talu’r gosb, neu wneud apêl i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig.

 

Cam Tri – Apêl i’r Dyfarnwr

Os byddwn yn gwrthod eich apêl ffurfiol yng Ngham Dau, gallwch wneud apêl i’r dyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Mae’r dyfarnwyr yn gyfreithwyr annibynnol ac mae eu penderfyniad yn derfynol.

Gallwch apelio ar-lein yn www.trafficpenaltytribunal.gov.uk.

Mae’r wefan yn egluro'r hyn y gall y dyfarnwr ei ystyried a sut i apelio.

Sylwer: Dim ond os ydych wedi gwneud apêl ffurfiol (Cam Dau) a bod hon wedi cael ei gwrthod gan y Cyngor y gall y Tribiwnlys Cosbau Traffig ystyried eich cais.

Os nad ydych yn gallu apelio ar-lein, gallwch ofyn am ffurflen bapur oddi wrth y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Bydd manylion ynghylch sut gallwch wneud hyn wedi ei gynnwys yn ein ymateb i'ch apêl ffurfiol.

 

end content