Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Glan Môr Llandrillo-yn-Rhos - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn bwriedig yw:
  • cynnal llif esmwyth traffig
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd
  • gwarchod amwynder yr ardal
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Prosiect Glan Môr Llandrillo-yn-Rhos) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2023


Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2 Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol:-

  • 1.  Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y 25 dydd o Awst Dwy fil a tair ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Prosiect Glan Môr Llandrillo-yn-Rhos) (Gwahardd a chyfyngu ar Aros) 2023."

  • 2.  
    • (1)  Yn y Gorchymyn hwn:-

      mae “Coetsys a Bysus” yn golygu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus sy’n gerbydau modur (heb law am dramiau) sy’n gerbydau a addaswyd i gludo mwy nac wyth o deithwyr, ac yn cael eu defnyddio i gludo teithwyr am dâl neu wobr; neu yn gerbydau heb eu haddasu, ac yn cael eu defnyddio i gludo teithwyr am dâl neu wobr am brisiau ar wahân wrth gyflawni’r busnes o gludo teithwyr fel y’i diffinnir yn Adran 1(1) Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981;

      mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;

      mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdurdodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi cael ei wneud dan y Ddeddf honno;

      mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;
      mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr ag sydd yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;
      mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;

      mae gan "disg parcio" yr un ystyr ag sydd yn Rheoliad Rhif 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;

      mae “Cerbyd Trydan” yn golygu cerbyd sydd wedi’i bweru’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan drydan ac yn gallu cael ei wefru o ffynhonnell allanol;

      mae “bae parcio cerbyd trydan” yn golygu bae parcio ar gyfer Cerbydau Trydan neu Gerbydau Hybrid sy’n gwefru;

      mae “pwynt gwefru Cerbyd Trydan” yn golygu uned bwrpasol a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer gwefru cerbydau trydan neu gerbydau hybrid.

    • (2)   I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:

      • (a)  pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

        • (ii)  pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau, fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.

    • (3)   I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:

      • (a)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu

      • (b)  pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.

    • (4)  Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 9 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 1.

  • 4.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 9 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg 8am i 6pm 1 Mai i 30 Medi ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 2.

  • 5.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 9 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 3 oni bai am Gerbydau Trydan neu Gerbydau Hybrid sy’n cael eu gwefru am uchafswm o 4 awr tra’u bod wedi cysylltu i bwynt gwefru heb ddychwelyd o fewn 4 awr.

  • 6.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 9 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau ffordd a nodir yn Atodlen 4 os nad yw’r cerbyd hwnnw yn arddangos bathodyn person anabl dilys.

  • 7.  Ni chaiff unrhyw un, heblaw am dan gyfarwyddyd neu â chaniatâd swyddog o’r heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd deithio ar hyd Promenâd y Gorllewin Llandrillo-yn-Rhos fel nodwyd yng Ngholofn 1 ar wahân i gyfeiriad a nodwyd yng Ngholofn 2 yr Atodlen 5.

  • 8.  Caiff Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2006 ei ddiddymu drwy hyn i’r graddau’n unig ei fod yn ymwneud â’r cyfyngiadau a osodwyd ar y darnau o ffordd a nodwyd yn Atodlen 6 y Gorchymyn hwn a bydd fel arall yn aros mewn grym ac effaith llawn.

  • 9.
    • (1)  Nothing in Article 3 of this Order shall render it unlawful to cause or permit any vehicle to wait in the length of road referred to therein for so long as may be necessary to enable:-

      • (a)  Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.

      • (b)  Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.

      • (c)  Defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-

        • (i)  Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol.

        • (ii)  Symud unrhyw rwystr ar draffig.

        • (iii)  Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.

        • (iv)  Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dwr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu.

      • (ch)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.

      • (d)  Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.

      • (dd)  Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.

      • (e)  Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau brigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.

    • (2)  Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle perthnasol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unigolyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd a gyfeiriwyd atynt yn yr Erthyglau hynny am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).

  • 10.  Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsis cyflym mewn arosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.

  • 11.  Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 14 dydd o Awst Dwy fil a tair a hugain
TROSeal181503

 

Atodlen 1 - Dim aros ar unrhyw adeg

Promenâd Rhos

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 90 metr i’r de o’i chyffordd â Rhos Road, ger Gerddi Combermere am bellter o 5 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/201

Ochr y gorllewin:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 19 metr tua’r gogledd.  Rhif map:  L/01/02/22/201

Promenâd Rhos / Promenâd y Gorllewin

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 38 metr i’r gogledd o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 96 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/202

Promenâd Cayley

Ochr y gorllewin:

  • 1.  O'i chyffordd â Phromenâd Rhos am bellter o 20 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203
  • 2.  O bwynt 15 metr i’r gogledd o'i chyffordd â Whitehall Road i’w chyffordd â Phromenâd y Gorllewin am bellter o 660 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 17 metr i’r gogledd ddwyrain o'i chyffordd â Llanerch Road East i’w chyffordd â Phromenâd y Gorllewin am bellter o tua 130 metr tua’r de-ddwyrain.  Rhif map:  L/01/02/22/205

Whitehall Road

Ochr y gogledd:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 21 metr tua'r gorllewin.  Rhif map: L/01/02/22/203 2

Ochr y de:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 42 metr tua'r gorllewin.  Rhif map: L/01/02/22/203 2

Holbeck Road

Ochr y gogledd:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 93 metr tua'r gorllewin.  Rhif map: L/01/02/22/204 2

Ochr y de:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 78 metr tua'r gorllewin.  Rhif map: L/01/02/22/204 2

Green Road

Y ddwy ochr:

  • O'i chyffordd â Holbeck Road am bellter o 13 metr tua’r gogledd.  Rhif map:  L/01/02/22/204

Ebberston Road East

Y ddwy ochr:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 53 metr tua’r gorllewin.  Rhif map:  L/01/02/22/204

Llanerch Road East

Y ddwy ochr:

  • O'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 72 metr tua’r gorllewin.  Rhif map:  L/01/02/22/205

Promenâd y Gorllewin

Ochr y dwyrain:

  • 1.  O bwynt 270 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 50 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/204
  • 2.  O bwynt 459 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 25 metr tua’r de-ddwyrain.  Rhif map:  L/01/02/22/205
  • 3.  O bwynt 222 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Penrhos am bellter o oddeutu 85 metr.  Rhif map:  L/01/02/22/206

Ochr y gorllewin:

  • O bwynt 78 metr i’r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â Ffordd Penrhos i’w chyffordd â Phromenâd Cayley.  Rhif map:  L/01/02/22/206

Ffordd Rhos

Ochr y de:

  • O bwynt 10 metr i’r gorllewin o’i chyffordd ag Allanson Road am bellter o 20 metr tua’r dwyrain.  Rhif map:  L/01/02/22/208

Allanson Road

Y ddwy ochr:

  • O'i chyffordd â Ffordd Rhos am bellter o 10 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/208

Promenâd Rhos

Ochr y gorllewin:

  • O bwynt 63 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Ffordd Rhos am bellter o 59 metr tua’r gogledd.  Rhif map:  L/01/02/22/209

 

Atodlen 2 - Gwahardd ar aros 8am i 6pm, 1 Mai i 30 Medi

Promenâd Cayley

Ochr y Dwyrain:

  • O'i chyffordd â Whitehall Road am bellter o 15 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203

 

Atodlen 3 - Man gwefru cerbydau trydan ar gyfer defnydd Cerbydau Trydan neu Gerbydau Hybrid sy’n gwefru, cyfyngiad aros o 4 awr heb ddychwelyd o fewn 4 awr

Promenâd Rhos

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 78 metr i’r de o’i chyffordd â Ffordd Rhos am bellter o 7 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/201

Promenâd y Gorllewin

Ochr y dwyrain:

  • 1.  O bwynt 68 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 42 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203
  • 2.  O bwynt 173 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/205
  • 3.  O bwynt 222 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â Phenrhos am bellter o oddeutu 25 metr.  Rhif map:  L/01/02/22/206

Promenâd Bae Colwyn

Ochr y gogledd-ddwyrain:

  • O bwynt 244 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Marine Road am bellter o 8 metr tua’r de-ddwyrain.  Rhif map:  L/01/02/22/20

 

Atodlen 4 - Deiliaid bathodyn anabledd yn unig

Promenâd Rhos

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 70 metr i’r de o’i chyffordd â Ffordd Rhos am bellter o 8 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/201

Promenâd y Gorllewin

Ochr y dwyrain:

  • 1.  O bwynt 58 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 10 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203
  • 2.  O bwynt 173 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/203
  • 3.  O bwynt 215 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/204
  • 4.  O bwynt 227 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/204
  • 5.  O bwynt 268 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/205
  • 6.  O bwynt 328 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/205
  • 7.  O bwynt 370 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/206
  • 8.  O bwynt 384 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/206
  • 9.  O bwynt 438 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/206
  • 10.  O bwynt 484 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 8 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/206
  • 11.  O bwynt 531 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 4 metr tua’r de.  Rhif map:  L/01/02/22/206

 

Atodlen 5 -  Traffig Unffordd

Promenâd y Gorllewin

  • o’i chyffordd ogleddol â Phromenâd Cayley i’w chyffordd ddeheuol â Phromenâd Cayley.   Cyfeiriad teithio - de ddwyrain.  Rhif map:  L/01/02/22/210

 

Atodlen 6 (Dirymu) - Dim aros ar unrhyw adeg

Promenâd Rhos

Ochr y dwyrain:

  • O bwynt 38 metr i’r gogledd o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 17 metr tua’r gogledd, cyfyngiad presennol i’w dynnu.

Promenâd y Gorllewin

Ochr y dwyrain:

  • 1.  O bwynt 270 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 50 metr tua’r de.  Cyfyngiad presennol i’w dynnu.
  • 2.  O bwynt 459 metr i’r de o'i chyffordd â Phromenâd Cayley am bellter o 20 metr tua’r de-ddwyrain. Cyfyngiad presennol i’w dynnu.

 


Tudalen Nesaf:  Mapiau

end content