Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Chwiliadau Personol


Summary (optional)
start content

Os ydych chi eisiau edrych ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol eich hun, ac nad oes angen tystysgrif chwiliad swyddogol arnoch, gallwch gynnal chwiliad personol.  Mae hyn yn galluogi chi i ddod i'n swyddfa ac archwilio Cofrestr Pridiannau Tir Lleol y Cyngor yn unig.

Dylech gysylltu â'r Swyddfa i roi rhybudd ymlaen llaw eich bod yn dymuno cynnal chwiliad personol, a bydd angen i chi ddarparu cyfeiriad a manylion yr eiddo/tir dan sylw ynghyd â chynllun.

Gellir archwilio'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar fore dydd Llun i ddydd Gwener.  Rhaid i chi wneud apwyntiad ac mae'r apwyntiad cyntaf yn am 10.15am.  Mae apwyntiad olaf y bore am 11.30am.

Mae'r cyfleuster hon yn galluogi chi i gael gwybodaeth sydd yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn unig, ac ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol i chi, sydd fel arfer yn cael ei chynnwys yn yr ymateb i ffurflen ymholiadau CON29.  Os ydych chi'n dymuno archwilio'r cofnodion sydd ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio, dylech gysylltu ag adran briodol y Cyngor er mwyn gwneud hynny, a bydd ffi am wneud hyn hefyd.

Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â'r hyn sydd ei angen arnoch, dylech ofyn am gyngor gan gyfreithiwr sy'n cynorthwyo gyda gwerthu a phrynu eiddo.  Ni fydd staff yr Awdurdod Lleol yn gallu eich helpu chi i gwblhau'r ffurflenni cais ac ni fyddant yn gallu llofnodi'r chwiliad.

Nid yw hyn yn chwiliad Pridiannau Tir Awdurdod Lleol Llawn, ac felly ni fydd yn cynnwys llofnod swyddogol y Cyngor.

Hawl i Wybodaeth a Chwilliadau Personol  Canllawiau Arfer Da 

Datganiad yn unol â Rheoliad 9 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Cymru) 2009 

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content