Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynlluniau Lleoedd


Summary (optional)
Cyfle i gymuned ddod ynghyd a helpu i chwarae rhan mewn datblygu’r lle sy’n bwysig iddynt yw Cynllun Lleoedd.
start content

 

Poster Cynllun Lle (PDF)

Pwrpas Cynllun Lleoedd yw:

  • Casglu tystiolaeth am eich ardal i ddeall pa faterion y mae'r gymuned yn eu hwynebu
  • Siarad â’r gymuned ehangach a budd-ddeiliaid ynglŷn â sut y bydd yr ardal yn datblygu, a beth sydd angen ei wneud ar gyfer lles y gymuned yn y dyfodol
  • Cytuno ar sut yr ydych am i wahanol agweddau o’ch lle fod yn y dyfodol
  • Cytuno ar gynllun i weithio tuag at y dyfodol hwn, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, polisïau ar gyfer gwneud penderfyniadau am gynllunio a chynllun gweithredu i nodi sut y bydd materion a nodwyd yn cael eu taclo.
  • Sicrhau fod y gymuned a budd-ddeiliaid allweddol yn cytuno i’r cynllun terfynol a’i fod yn cael ei fabwysiadu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i’w ddefnyddio fel Canllaw Cynllunio Atodol e.e. i'w ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio

Rydym wedi cynllunio pecyn gwaith i’ch helpu i roi eich Cynllun Lleoedd ynghyd ac mae ar gael yma: Datblygu Cymunedau Conwy (PDF, 2.42Mb)

Bydd dogfennau a thempledi cefnogol pellach yn ogystal ag offer ymgysylltu a chanllawiau defnyddiol eraill ar gael yn fuan.

Os byddai ddiddordeb gennych mewn mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gychwyn Cynllun Lleoedd yna e-bostiwch cynlluniaulle@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content