Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwyno am Wrych Uchel


Summary (optional)
Gall gwrychoedd uchel gael effaith niweidiol ar eich tŷ neu eich gardd a chafwyd pwerau i ddelio â nhw dan Ran 8, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
start content

Mae'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â gwrychoedd uchel yn wahanol i niwsans arall gan ei bod hi’n ofynnol i’r rhai yr effeithir arnynt gan wrych uchel geisio datrys y mater gyda'u cymydog yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig cadw cofnodion llawn o'ch ymdrechion i ddatrys y sefyllfa a'r ymatebion a gewch gan eich cymdogion.

Os nad ydych yn gallu datrys y mater, gallwch gwyno wrth y Cyngor, ond efallai y bydd tâl os na fydd y cyswllt cyntaf â pherchennog y gwrych yn datrys y broblem. Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn codi £320 am wneud cwyn.

Beth fydd yn digwydd os nad yw'r Awdurdod yn cytuno â'm cwyn?

Efallai bydd yr Awdurdod Lleol yn penderfynu peidio bwrw ymlaen â'r gŵyn os yw o'r farn:

  • nad yw'r achwynydd wedi cymryd pob cam rhesymol i ddatrys y materion y cwynwyd amdanynt heb gynnwys y cyngor
  • bod y gŵyn yn wamal neu'n flinderus
  • bod y gŵyn y tu allan i gwmpas y Ddeddf.

Gydag unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, bydd y cyngor yn rhoi gwybod i'r achwynydd cyn gynted ag y gallant, gan egluro'r rhesymau dros eu penderfyniad. Ni ad-delir y ffi. Nid oes unrhyw hawl benodol i apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i beidio â bwrw ymlaen â chŵyn gwrych uchel, ond os bydd rhywun yn teimlo nad yw'r cyngor wedi delio'n briodol â'u hachos, gallant gwyno drwy drefn gwyno'r cyngor, neu wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.

Porth Cynllunio - Gwrychoedd Uchel

end content