Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cwestiynau a ofynnir yn aml am Wrychoedd Uchel

Summary (optional)
start content
C: Beth yw gwrych uchel?
A: Rhaid i wrych uchel gael ei ffurfio yn llwyr neu'n bennaf gan linell o ddau neu fwy o goed bytholwyrdd, neu rannol fytholwyrdd, gydag uchder o fwy na 2 fetr uwchlaw lefel y ddaear. Felly rhaid gofyn y cwestiynau canlynol: - A yw'r gwrych yn ymddwyn i ryw raddau fel rhwystr i oleuni neu fynediad, er efallai bod bylchau ynddo? - A yw'n cynnwys dau neu fwy o goed neu brysgwydd ac a ydynt mewn llinell yn fras? - A yw'r gwrych yn cynnwys prysgwydd bytholwyrdd neu rannol fytholwyrdd yn llwyr neu'n bennaf? - A yw'r gwrych yn uwch na 2 fetr? - A yw'r gwrych, oherwydd ei uchder, yn cael effaith negyddol ar fwynhad rhesymol o'r cartref neu'r ardd? Os mai'r ateb i'r holl gwestiynau hyn yw YDI mae'n debygol o fod yn wrych uchel at bwrpasau'r Ddeddf. Nid oes diffiniad unigol o'r term rhannol fytholwyrdd yn y Ddeddf, ond fel arfer mae hyn yn golygu fod y gwrych yn parhau i fod â rhai dail gwyrdd neu'n fyw drwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, mewn rhai rhannau o'r wlad, caiff coed prifat eu cynnwys yn y diffiniad hwn, fodd bynnag, y pellaf i'r gogledd rydych yn byw, y mwyaf tebygol yw eich gwrych prifet o golli ei ddail dros y gaeaf, ac felly ni fydd yn cael ei gynnwys dan y diffiniad hwn. Mae gwrychoedd ffawydd yn debyg o gael eu heithrio, oherwydd er bod rhywfaint o dyfiant arnynt am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, mae'n frown ac yn farw.
C: Dan ba amgylchiadau y gellir gwneud cwyn?
A: Os yw gwrych sydd ar dir y mae unigolyn arall yn berchen neu'n preswylio arno yn effeithio ar berchennog/preswylydd eiddo domestig, ac o ganlyniad i'w uchder, ei fod yn ymddwyn fel rhwystr i oleuni neu fynediad i'r graddau ei fod yn cael effaith negyddol ar fwynhad rhesymol o'r eiddo, mae'n bosibl y gellir gwneud cwyn.
C: Beth os yw gwreiddiau'r gwrych yn effeithio ar yr eiddo?
A: Mae hwn yn fater sifil ac nid yw wedi ei gynnwys yn y Ddeddf.
C: Mae'r gwrych yn ffurfio terfyn busnes. A yw'n bosibl cymryd achos?
A: Ydi. Dylai'r un camau rhesymol gael eu cymryd cyn mynd at yr Awdurdod Lleol. Fel gyda pherchnogion gwrychoedd unigol.
C: Pa uchder ddylai gwrych fod?
A: Nid oes uchder penodol o fewn y ddeddfwriaeth ac eithro; nad yw'n bosibl i'w gwneud yn ofynnol i ostwng uchder y gwrych i lai na 2 fetr. Nid yw hyn yn golygu mai 2 fetr yw'r uchafswm ar gyfer pob gwrych, gan fod posibilrwydd nad yw gwrych o 2.5 metr neu fwy yn cael effaith negyddol ar fwynhad o eiddo. Mae hyn yn benderfyniad y byddai'n rhaid i'r Awdurdod Lleol ei gymryd os byddai cwyn yn cael ei chofrestru.
C: Beth os ydw i'n teimlo bod y gwrych yn berygl gan y gallai'r coed ddisgyn?
A: Nid yw'r ddeddfwriaeth yn delio â hyn, mater sifil ydyw.
C: Beth os yw fy ngolygfa'n cael ei rhwystro?
A: Does dim hawl cyfreithlon i gael golygfa, ac ni fyddai'r mater hwn ar ben ei hun yn golygu o anghenrhaid y gallem gymryd camau.

A: Does dim hawl cyfreithlon i gael golygfa. ac ni fyddai'r mater hwn ar ben ei hun yn golygu o anghenraid y gallem gymryd camau.

Dogfen Bolisi a Threfnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn Ymwneud â Gwrychoedd Uchel

Nodiadau Cyfarwyddyd i helpu wrth benderfynu a yw gwrych yn achosi problem

end content