Mae llawer o Ofalwyr yn berthnasau, ffrindiau neu gymdogion y bobl maent yn gofalu amdanynt ac efallai nad ydynt yn ystyried eu hunain fel Gofalwyr, ond efallai eu bod wedi bod yn gofalu am rywun am amser hir.
Gall bod yn Ofalwr fod yn werth chweil, ond ar adegau gall hefyd deimlo'n llethol a gofyn llawer, ond mae cefnogaeth ar gael.
Efallai y bydd gan Ofalwyr hawl i gael cefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a sefydliadau eraill.
Cysylltwch â ni ar 03004561111 i gael rhagor o wybodaeth.
Cefnogwyr Gofalwyr
Rôl Cefnogwr Gofalwyr yw cynnal a chryfhau proffil Gofalwyr o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a hyrwyddo Gofalwyr o fewn blaenoriaethau corfforaethol a gwasanaethau’r Cyngor er mwyn sicrhau bod Gofalwyr yn cael y gydnabyddiaeth briodol.
Y Cynghorydd Cheryl Carlisle yw’r Cefnogwr Gofalwyr presennol.
Efallai y gall y sefydliadau canlynol ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi:
Gwybodaeth Ychwanegol