Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Cysylltwch â Gofal Cymdeithasol Cymorth Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y Nos, ar Benwythnosau ac ar Wyliau Banc

Cymorth mewn Argyfwng y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y Nos, ar Benwythnosau ac ar Wyliau Banc


Summary (optional)
Mae Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng Conwy yn cynnig gwybodaeth a chymorth i unigolion sydd angen cysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar frys y tu allan i oriau gwaith arferol.
start content

Dim ond â sefyllfaoedd brys na allant aros tan y diwrnod gwaith canlynol y bydd y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn delio â nhw.

Mae modd cysylltu â’r TDA ar: 0300 123 3079


Pryd mae cymorth ar gael?

  • Dydd Llun i ddydd Gwener: 5pm – 9am
  • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc: 9am – 9am

Bydd Cydgysylltydd y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn cynnig gwybodaeth neu’n cyfeirio unigolion at sefydliadau eraill all gynnig cymorth.

Pwy mae’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn eu helpu?

  • Unrhyw un sy’n amau fod plentyn neu oedolyn diamddiffyn mewn perygl uniongyrchol o gael eu niweidio neu eu hesgeuluso.
  • Unrhyw un sydd â phryderon uniongyrchol difrifol am iechyd meddwl unigolyn arall allai ei roi ei hun neu unigolyn arall mewn perygl.
  • Plant neu bobl ifanc sy’n chwilio am gyngor brys ar unwaith.
  • Teuluoedd sy’n cael trafferthion tyngedfennol gyda’u plant.
  • Pobl ifanc 16 oed neu hŷn sy’n ddigartref.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.


Gwasanaethau eraill

Os nad ydych chi’n siŵr pa un o Wasanaethau’r GIGy dylech chi gysylltu â nhw, mae cyngor ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru.  Bydd y ddolen isod yn mynd â chi yno.

Mae Canolfannau Mi Fedraf yn fannau cymunedol sy’n rhoi cyfle i bobl drafod eu problemau gyda phobl sy’n gwrando heb farnu, a chael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth y maen nhw eu hangen.

Os hoffech chi drafod unrhyw faterion iechyd meddwl, cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth.

Y rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau Gogledd Cymru yw: 0300 123 5566.

Gwybodaeth amdanoch chi

Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol bolisi ar y defnydd o wybodaeth bersonol, ac mae’n rhaid i ni ei ddilyn.

Bydd rhaid i ni ofyn i chi am wybodaeth er mwyn i ni allu eich helpu. Gan amlaf, cyn i ni rannu gwybodaeth am eich argyfwng â gwasanaethau eraill y tu allan i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hynny.

Canmoliaeth neu gŵyn

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am ein gwasanaethau – boed y rheiny’n dda neu’n ddrwg. Mae gennym ddiddordeb clywed sut y gallwn ni wneud yn well, ac rydym yn hoffi cael gwybod pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth yn dda.  Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at ein tudalen Cwynion a Chanmoliaeth.

 

end content