Yn 2017 gwnaethom ddechrau ar brosiect i ddatblygu Canolfan newydd i Deuluoedd ar gyfer ein Tîm Cymorth i Deuluoedd yng nghanol Conwy (Bae Colwyn a’r cymunedau cyfagos). Ar ôl ymgynghori gyda’r gweithwyr proffesiynol yn yr ardal a chytunwyd ar gyllid ar gyfer pobl yn y gymuned yn 2020 er mwyn ailwampio’r hen ysgol yn Ffordd Douglas, Bae Colwyn . Roedd hyn yn cynnwys llain o dir i greu lle chwarae. Y weledigaeth oedd y byddai yn ganolfan ble gallai teuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau, cyfarfod gyda phobl eraill yn y gymuned, a chael mynediad i gefnogaeth gan ein Tîm Cymorth i Deuluoedd a gwasanaethau eraill fel cam-drin domestig, cyngor budd-daliadau ac ymwelwyr iechyd.
Cafodd yr ailwampio ei gwblhau’n llwyddiannus ym mis Ionawr 2022 ac rydym yn falch i allu rhannu’r stori lawn gyda chi am y datblygiad safle yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau a chyfleusterau sydd bellach ar gael.
Yn yr adran hon
Drag side panels here (optional)