Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Am Y Prosiect


Summary (optional)

 

start content

Cafodd Prosiect Canolfan Ffordd Douglas ei sefydlu fel rhan o ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu cymorth ar bwynt cynharach i deuluoedd yn eu cymuned eu hunain. 

Nod y prosiect oedd ailddatblygu dau eiddo, yr hen ysgol a’r Ganolfan Addysg i Oedolion ar Ffordd Douglas, a chreu Canolfan i Deuluoedd a lle chwarae awyr agored yn eu lle, gan gynnig canolfan newydd gyda chyfleusterau anhygoel i Fae Colwyn a’r cymunedau cyfagos.  

Yn ogystal â hyn, roedd y prosiect yn creu cartref newydd ar gyfer y Tîm Cymorth i Deuluoedd Canolog a’r tîm Iechyd Dechrau’n Deg a swyddogion Gofal Plant. Roeddent wedi eu lleoli’n flaenorol mewn swyddfa ble nad oedd y cyhoedd yn gallu ymweld ac yn rhannu porta-cabin, gan gyfyngu ar y gwaith yr oeddent yn gallu ei wneud o fewn y gymuned leol. 

Bydd y canolbwynt cymunedol amlasiantaeth hwn yn darparu:

  • Grwpiau chwarae, gweithgareddau teuluoedd, gweithgareddau ieuenctid a gweithgareddau grŵp (o dan arweiniad gweithwyr teulu a gwirfoddolwyr)
  • Cyrsiau rhianta a dysgu fel teulu;
  • Cefnogaeth gan Weithiwr Teulu; 
  • Gwasanaethau gan asiantaethau sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn cefnogi teuluoedd (fel gwasanaethau cam-drin domestig, hawliau lles, cwnsela i deuluoedd, gwasanaethau ieuenctid ac ati).


Roedd y prosiect yn bosibl oherwydd cyllid gan Gyngor Conwy, Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru drwy Grant Cyfalaf Dechrau’n Deg Iechyd a Llywodraeth Cymru. 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content