Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymorth gan y Tîm Anabledd dros 25 oed


Summary (optional)
start content

Mae’n tîm yn cynnig help i’r bobl ganlynol:

  • Mae’n tîm yn cynnig help i’r bobl ganlynol: Oedolion – cysylltwch â Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1111
  • Gofalwyr - Ewch i'n tufalennau Gofalwyr

Bydd aelod o’n tîm yn cynnal asesiad o anghenion, sy’n cynnwys y canlynol:

  • edrych ar eich amgylchiadau
  • asesu’r canlyniadau personol yr ydych am eu cyflawni
  • edrych ar unrhyw rwystrau sy'n eich atal rhag cyflawni eich canlyniadau personol
  • clustnodi unrhyw risgiau i chi os na fyddwch yn cyflawni eich canlyniadau personol
  • nodi eich cryfderau a’ch gallu

Sgwrs rhyngoch chi a / neu eich teulu a'ch swyddog gofal cymdeithasol fydd yr asesiad er mwyn datrys sut i gwrdd eich anghenion gofal a chymorth. Rhaid i’r asesiad nodi datrysiadau a sut byddant yn cael eu cyflawni. Rhaid cymryd y pum elfen a restrir uchod i ystyriaeth yn yr asesiad, wedyn bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â pha anghenion sy'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth gan y Gwasanaeth Anabledd.

Os byddwch yn cael asesiad sy’n dangos y dylech gael help i gwrdd eich anghenion gofal, gallwn roi arian i chi yn hytrach na threfnu gofal i chi, y gallwch chi ei wario ar gael y cymorth angenrheidiol. Gelwir hyn yn Daliadau Uniongyrchol.


Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch eich atgyfeirio at y Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal sy’n cynnwys gweithwyr arbenigol nam ar y synhwyrau a therapyddion galwedigaethol. Maent yn cynnig ymateb cyntaf i unigolion sydd wedi eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Anabledd o dan y meini prawf canlynol:

  • pobl o dan 65 oed sydd ag Anabledd Corfforol
  • plant ac oedolion o bob oed sydd ag anableddau dysgu neu sydd â nam ar y synhwyrau

Mae’r tîm yn cynnwys:

Therapyddion Galwedigaethol

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn y Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn ceisio galluogi pobl ag anableddau i ddod yn fwy annibynnol yn beth maent am ei wneud. Yn ogystal, gallant asesu ar gyfer offer ac addasiadau a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth. Os nad yw’r eiddo yn addas ar gyfer ei addasu, gall y Therapydd Galwedigaethol atgyfeirio at Datrysiadau Tai er mwyn ail-gartrefu.

Tywyswyr Cyfathrebu ‘Sense’

Mae gan Gonwy weithwyr arbenigol a ddarperir gan y sefydliad gwirfoddol ‘Sense’ wedi eu lleoli o fewn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Mae’r Tywyswyr Cyfathrebu yn cael eu hyfforddi i roi cymorth cyfathrebu, symudedd a mynediad at wybodaeth i bobl sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw - a elwir yn fyddardod/ dallineb caffaeledig. Eu rôl yw cynorthwyo’r unigolyn i gadw eu hannibyniaeth, ymuno â’u cymuned leol a gwella eu safon byw.

Vision Support Swyddogion Ailsefydlu


Gall Swyddogion Ailsefydlu gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol, adfer sgiliau sydd wedi eu colli, neu ail adeiladu hyder wedi colli golwg. Gallai hyn fod trwy ddarparu gwybodaeth, offer, anogaeth, a hyfforddiant i chi, neu drwy eich atgyfeirio at asiantaethau eraill. Gall prawf golwg fod o gymorth i chi ddeall eich cyflwr a gwneud y mwyaf o’r golwg sydd gennych ar ôl. Gall gwasanaethau ysbyty ymchwilio anghenion meddygol, ond mae cymorth ailsefydlu yn fwy ymarferol a gallai helpu, beth bynnag yw cyflwr neu lefel eich golwg. Bydd prawf golwg yn dangos unrhyw broblemau gyda’ch golwg a bydd Swyddogion Ailsefydlu Golwg yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â delio gyda cholli golwg a defnyddio'r golwg sydd gennych ar ôl.

Eiriolaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i eiriolaeth, rydym yn creu y dylech gael mynediad at Wasanaethau Eirolaeth er mwyn eich cefnogi i gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd chi. Mae’r Gwasanaeth Anabledd yn gweithio gyda sefydliadau eiriolaeth ar gyfer plant ac oedolion. Os ydych yn credu y byddai gwasanaethau eirioli o gymorth i chi gallwch atgyfeirio eich hun neu gofynnwch i’ch swyddog gofal cymdeithasol eich atgyfeirio.

Mae gofal a chymorth ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru yn newid. I ddarganfod mwy, gwyliwch Fideos Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

end content