Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymorth gan y Tîm Anabledd o dan 25 oed


Summary (optional)
start content

Mae’n tîm yn cynnig cymorth i’r bobl canlynol:

  • Plant – cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd ac Asesu ar 01492 575111
  •  Oedolion rhwng 18 – 25 oed – cysylltwch â Tîm Mynediad Conwy ar 0300 456 1111
  • Gofalwyr - ewch i'r dudalen Gofalwyr

Bydd aelod o’n tîm yn cynnal asesiad o anghenion, sy’n cynnwys y canlynol:

  • edrych ar eich amgylchiadau
  •  asesu’r canlyniadau personol yr ydych am eu cyflawni
  • edrych ar unrhyw rwystrau sy'n eich atal rhag cyflawni eich canlyniadau personol
  • clustnodi unrhyw risgiau i chi os na fyddwch yn cyflawni eich canlyniadau personol
  • nodi eich cryfderau a’ch gallu

Sgwrs rhyngoch chi a / neu eich teulu a'ch swyddog gofal cymdeithasol fydd yr asesiad er mwyn datrys sut i gwrdd eich anghenion gofal a chymorth. Rhaid i’r asesiad nodi datrysiadau a sut byddant yn cael eu cyflawni. Rhaid cymryd y pum elfen a restrir uchod i ystyriaeth yn yr asesiad, ac o hyn bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â pha anghenion sy'n gymwys i dderbyn gofal a chymorth gan y Gwasanaeth Anabledd.

Os byddwch yn cael asesiad sy’n dangos y dylech gael help i gwrdd eich anghenion gofal, yn hytrach na threfnu gofal i chi, gallwn roi arian i chi yn lle hynny, y gallwch chi ei wario ar gael y cymorth angenrheidiol. Gelwir hyn yn Daliad Uniongyrchol

Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y cewch eich atgyfeirio at y Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal sy’n cynnwys gweithwyr arbenigol nam ar y synhwyrau a therapyddion galwedigaethol. Maent yn cynnig ymateb cyntaf i unigolion sydd wedi eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Anabledd o dan y meini prawf canlynol:

  • pobl o dan 65 oed sydd ag Anabledd Corfforol
  • plant ac oedolion o bob oed sydd ag anableddau dysgu neu sydd â nam ar y synhwyrau

Mae’r tîm yn cynnwys:

Therapyddion Galwedigaethol

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn y Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn ceisio galluogi pobl ag anableddau i ddod yn fwy annibynnol yn beth maent am ei wneud. Yn ogystal, gallant asesu ar gyfer offer ac addasiadau a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth. Os nad yw’r eiddo yn addas ar gyfer ei addasu, gall y Therapydd Galwedigaethol atgyfeirio at Datrysiadau Tai er mwyn ail-gartrefu.

Tywyswyr Cyfathrebu ‘Sense’

Mae gan Gonwy weithwyr arbenigol a ddarperir gan y sefydliad gwirfoddol ‘Sense’ wedi eu lleol o fewn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Mae'r Tywyswyr Cyfathrebu yn cael eu hyfforddi i roi cymorth cyfathrebu, symudedd a mynediad at wybodaeth i bobl sydd â nam ar eu golwg neu ar eu clyw - a elwir yn fyddardod/ dallineb caffaeledig. Eu rôl yw cynorthwyo'r unigolyn i gadw eu hannibyniaeth, ymuno â'u cymuned leol a gwella eu safon byw.

Vision Support Swyddogion Ailsefydlu

Gall Swyddogion Ail sefydlu gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol, adfer sgiliau sydd wedi eu colli, neu ail adeiladu hyder wedi colli golwg. Gellid gwneud hyn drwy roi gwybodaeth, offer, anogaeth, a hyfforddiant i chi, neu drwy eich atgyfeirio at asiantaethau eraill. Gall prawf golwg fod o gymorth i chi ddeall eich cyflwr a gwneud y mwyaf o’r golwg sydd gennych. Gall gwasanaethau ysbyty ymchwilio anghenion meddygol ond mae cymorth ail sefydlu yn fwy ymarferol a gallai help, beth bynnag yw cyflwr neu lefel eich golwg. Bydd prawf golwg yn dangos unrhyw broblemau gyda’ch golwg a bydd Swyddogion Ailsefydlu Golwg yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â delio gyda cholli golwg a defnyddio'r golwg sydd gennych ar ôl.

Eiriolaeth

Fel rhan o’n hymrwymiad i eiriolaeth, rydym yn creu y dylech gael mynediad at Wasanaethau Eiriolaeth er mwyn eich cefnogi i gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd chi. Mae’r Gwasanaeth Anabledd yn gweithio gyda sefydliadau eiriolaeth ar gyfer plant ac oedolion. Os ydych yn credu y byddai gwasanaethau eirioli o gymorth i chi gallwch atgyfeirio eich hun neu gofynnwch i’ch swyddog gofal cymdeithasol eich atgyfeirio.

Mae gofal a chymorth ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru yn newid. I ddarganfod mwy, gwyliwch Fideos Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

end content