Rydym ni’n falch o rannu sgoriau ein gwasanaeth gofal
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd uchel a bod yn agored ynglŷn â sut mae pethau’n mynd.
Dan y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 newydd, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref gofal a gwasanaeth gofal yn y cartref yng Nghymru arddangos eu sgoriau arolygu yn glir ar eu gwefannau (os oes sgôr ganddyn nhw) ac yn eu lleoliad ffisegol.
Rydym ni’n falch o ddilyn y rheolau newydd hyn ac yr ydym ni bellach yn arddangos y sgoriau arolygu ar gyfer ein gwasanaethau gofal a chymorth mewnol.
Pam mae’r rhain yn bwysig?
Mae'r system sgorio newydd hon yn rhoi gwybodaeth eglur a dibynadwy i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am ofal ar eu cyfer nhw eu hunain, aelod o'r teulu, neu ffrind. Mae hefyd yn ein helpu ni i fyfyrio, gwella a dathlu'r gwaith yr ydym ni’n ei wneud ar gyfer pobl ddiamddiffyn yr ydym ni’n eu cefnogi ledled Conwy.
Sut caiff gwasanaethau eu sgorio?
Caiff pob gwasanaeth gofal ei archwilio a'i raddio mewn pedwar maes allweddol:
- Lles – pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn cefnogi iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl, eu hannibyniaeth, eu hawliau a'u perthnasoedd.
- Gofal a chymorth – pa mor dda y mae'r gwasanaeth yn bodloni anghenion unigol.
- Arweinyddiaeth a rheolaeth – pa mor effeithiol y caiff y gwasanaeth ei redeg, sut mae staff yn cael eu cefnogi, a sut mae ansawdd yn cael ei fonitro.
- Amgylchedd – ar gyfer gwasanaethau â llety, pa mor ddiogel, cyfforddus, a pha mor dda y mae'r adeilad a'r cyfleusterau yn cael eu cynnal a'u cadw.
Rhoddir un o'r sgoriau canlynol i bob maes:
- Rhagorol
- Da
- Angen gwella
- Angen gwelliannau sylweddol
Manteision y system hon
Mae'r dull newydd hwn yn cefnogi Conwy i:
- Ddathlu pan fo gofal yn rhagorol
- Dysgu o’r hyn sy’n gweithio’n dda
- Nodi meysydd i’w gwella
- Ysgogi a chydnabod ein timau gofal ymroddedig
- Meithrin ymddiriedaeth â'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau
A yw'r holl wasanaethau wedi'u cynnwys?
Bydd y rhan fwyaf o'n gwasanaethau gofal ni’n arddangos eu sgoriau. Fodd bynnag, nid oes angen i rai gwasanaethau wneud hynny:
- Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18
- Gwasanaethau bach iawn (pedwar neu lai o breswylwyr), oni bai eu bod nhw’n dewis arddangos eu sgôr
- Gwasanaethau sy’n rhedeg o gartrefi preifat neu leoedd na all y cyhoedd fynd atynt
Ein hymrwymiad
Yng Nghonwy, rydym ni’n falch o fod yn agored ynglŷn ag ansawdd ein gofal. Mae rhannu ein sgoriau yn helpu i feithrin ymddiriedaeth, yn cefnogi pobl i wneud penderfyniadau hyderus o ran gofal, ac yn ein helpu ni i barhau i wella'r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu.
Llys Elian
Bron y Nant
Gwasanaethau gofal cartref i bobl ag anableddau a phobl hŷn
Rhagor o wybodaeth
Arolygiaeth Gofal Cymru: www.arolygiaethgofal.cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru: gofalcymdeithasol.cymru
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am y gwasanaethau gofal cymdeithasol yr ydym ni’n eu darparu, cysylltwch â'n tîm comisiynu yn gc.comysiynu@conwy.gov.uk.