Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Awtistiaeth


Summary (optional)
Gwybodaeth am awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghonwy i bobl awtistig a’u teuluoedd.
start content

Beth yw awtistiaeth?

Mae awtistiaeth (sy’n cael ei gyfeirio ato weithiau fel ‘cyflwr sbectrwm awtistiaeth’ - CSA) yn gyflwr datblygiadol sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu, yn ymddwyn ac yn rhyngweithio â phobl eraill. Efallai y bydd gan rai pobl awtistig nodweddion amlwg iawn ac eraill ddim. Yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw gwahaniaethau yn eu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol a’u hymddygiad o gymharu â phobl sydd ddim yn awtistig.

Mae pobl awtistig yn prosesu gwybodaeth yn wahanol. Mae prosesu gwybodaeth synhwyraidd yn gallu bod yn anodd. Gall unrhyw un o’u synhwyrau fod yn or-sensitif neu ddim yn ddigon sensitif, neu’r ddau, ar wahanol adegau.  Dysgwch fwy am awtistiaeth.

Sut mae cael diagnosis o awtistiaeth?

Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn gofyn am asesiad manwl gan dîm o weithwyr proffesiynol. Yr enw ar hyn yw ‘asesiad diagnostig’. Mae canllawiau i bobl broffesiynol eu dilyn pan maen nhw’n cynnal asesiadau diagnostig

Mae’n bwysig nodi bod rhestrau aros hir am asesiadau. Yn aml mae cymorth ar gael i bobl sy’n dangos arwyddion o awtistiaeth tra maen nhw’n aros am asesiad. Cewch fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y dudalen hon.

Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

content

 

end content