Comisiynu ym maes gofal cymdeithasol
Fel rhan o raglen drawsnewid Gofal Cymdeithasol, cafodd tîm comisiynu ei sefydlu i gefnogi’r adran. Y nod yw datblygu comisiynu’n seiliedig ar ganlyniadau sy'n rhoi unigolion wrth wraidd popeth a wnawn.
Ein Dull
Mae ein dull o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn canolbwyntio ar unigolion o fewn eu cymunedau a’u teuluoedd. Mae'n pwysleisio cyfrifoldeb a rheolaeth gan y dinesydd gyda gwasanaethau sy’n hwyluso ac yn cefnogi’r rôl honno - y dinesydd hunan-ofalgar sy’n cael cefnogaeth briodol pan fo angen. Yn ganolog i weledigaeth ein gwasanaeth yw rôl yr unigolyn fel yr arbenigwr, yn cymryd cyfrifoldeb am gynllunio cefnogaeth a gofal yn y dyfodol, a’i fod yng nghanol yr elfennau hyn. Bydd gwasanaethau’n canolbwyntio ar ddatblygu a chynnal annibyniaeth unigolion trwy gefnogi datblygiad rhwydweithiau cymunedol cryf a gwasanaethau sy'n cefnogi pobl yn eu cartrefi.
Mae’r tîm comisiynu ar hyn o bryd yn gweithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a chydweithwyr iechyd ar Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gymeradwywyd ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r wybodaeth yma yn cyfarwyddo ein strategaeth gomisiynu Gofal Cymdeithasol Conwy a chynlluniau comisiynu ar gyfer pob gwasanaeth.
Dweud eich Dweud
I ddweud eich dweud am wasanaethau Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i’r dudalen Dweud eich Dweud. Mae eich adborth yn ein helpu i gynllunio’r gefnogaeth a ddarparwn a'r gwasanaethau a brynwn.
Gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaethau
- Er mwyn helpu i gynllunio eich busnes, gweler y Datganiad am Sefyllfa’r Farchnad isod sy'n cynnwys tueddiadau'r dyfodol a’n cynlluniau i ddatblygu gwasanaethau. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar y tudalennau Ymchwil / Ystadegau ar ein gwefan, neu gallwch gysylltu â ni.
- Ewch i GwerthwchiGymru am gyfleoedd i dendro
- Ewch i wefan CGGC neu gweler isod am gyfleoedd cyllid grant.
- Ewch i’n cyfarfodydd rheolaidd ymgysylltu darparwyr a’r sector gwirfoddol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
I gael rhagor o wybodaeth neu i siarad ag un o'r tîm comisiynu, cysylltwch â:
- Oedolion: 01492577741
- Plant: 01492575926
gc.comisiynu@conwy.gov.uk
Tîm Comisiynu Gofal Cymdeithasol
PO Box 1
CONWY
LL30 9GN
Ymgysylltiad â’r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol
Rydym yn awyddus i adeiladu partneriaethau cryf gyda darparwyr o'r sector annibynnol a'r trydydd sector yr ydym ar hyn o bryd yn eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â’r darparwyr hynny y gallwn eu comisiynu yn y dyfodol.
Os hoffech wybod mwy am y gwaith, cysylltwch â:
- Swyddog Datblygu Pobl Hŷn a’r Sector Annibynnol: 01492 577824
- Swyddog Cyswllt y Sector Wirfoddol: 01492 574096
Dogfennau perthnasol