Oherwydd bod nifer y lleoedd yn brin, gallwn ond dderbyn un archeb fesul sefydliad ar y cwrs hwn.
Iechyd a diogelwch: bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn arddangosiadau ymarferol.
Os oes gan gynrychiolydd unrhyw gyflwr meddygol neu anaf presennol, rhaid iddo ymgynghori â’r hyfforddwr a’i hysbysu’n glir ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i’w galluogi i gymryd rhan.
Os nad yw cynrychiolwyr yn gorfforol abl i gyflawni’r arddangosiadau isod, ni ddylent fynychu’r cwrs nes eu bod yn gorfforol abl i wneud hynny.
Arddangosiadau:
Rhaid i gynrychiolwyr allu cyflawni CPR wrth benlinio ar y llawr am gyfnod o 2 funud. Ni fydd unrhyw gynrychiolwyr nad ydynt yn gallu gwneud hyn yn cael tystysgrif;
Bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gyflawni arddangosiadau mewn amgylchedd diogel a rheoledig;
Cyflawni CPR ar fodelau hyfforddi (manikins), gan gynnwys anadliadau achub (rhaid cynnal yr arddangosiad hwn wrth benlinio ar y llawr);
Dangos y weithdrefn ar gyfer tagu ar fodel hyfforddi neu drwy ddefnyddio festiau tagu;
Gosod sling;
Rhoi rhywun yn safle adfer.
Dyddiadau
- 2026:
- 13 a 14 Awst, 9:30am tan 12:30pm
- 29 a 30 Hydref, 9:30am tan 12:30pm
- 2027:
- 11 a 12 Chwefror, 9:30am tan 12:30pm
Manylion y cwrs
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Pauline Salisbury
- Gwasanaethau a dargedwyd: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon
- Grŵp targed: Gofalwyr Maeth, staff Glan yr Afon, Gweithwyr Sesiynol a Chyswllt, Gweithwyr Cymdeithasol a staff cymorth sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol a gwaith dosbarth damcaniaethol, yn ogystal ag asesiadau ymarferol parhaus ar Adfywio Cardio-Pwlmonaidd (CPR) a chymorth cyntaf.
Mae amrywiaeth o bynciau yn cael eu cwmpasu gan gynnwys:
- Dealltwriaeth o rôl unigolyn cymorth cyntaf pediatreg
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb nac yn anadlu’n arferol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sy’n dioddef sioc
- Sut i asesu sefyllfa frys a gweithredu’n ddiogel ac effeithiol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd â rhywbeth yn sownd yn eu llwybr anadlu
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb ac sy’n anadlu’n arferol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi anafu ac sy’n gwaedu
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn yr amheuir eu bod wedi torri asgwrn neu sydd wedi datgymalu asgwrn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflwr meddygol cronig neu salwch sydyn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda llosgiadau neu sgaldiadau
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gydag anaf i’r pen, gwddf a chefn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn sy’n profi effeithiau gwres ac oerfel eithafol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu gwenwyno
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflyrau sy’n effeithio ar y llygaid, clustiau a thrwyn
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi cael sioc drydanol
- Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu brathu neu bigo
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.