Oherwydd bod nifer y lleoedd yn brin, gallwn ond dderbyn un archeb fesul sefydliad ar y cwrs hwn.
Iechyd a diogelwch: bydd gofyn i bawb gymryd rhan mewn sesiwn arddangos gorfforol.
Os oes gennych chi unrhyw anafiadau/cyflyrau meddygol, rhaid i chi gysylltu â’r hyfforddwr ymlaen llaw i roi gwybod iddyn nhw am hyn, fel bod modd iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol er mwyn i chi allu cymryd rhan. Os na fyddwch chi’n gallu cymryd rhan yn y sesiynau arddangos corfforol isod, ddylech chi ddim dod i’r cwrs nes y byddwch chi’n gallu gwneud hynny.
Sesiynau arddangos - bydd rhaid i chi allu gwneud y canlynol mewn amgylchedd diogel a reolir:
• Defnyddio teclyn codi gyda slingiau;
• Defnyddio cynfas lithro;
• Defnyddio cymhorthion sefyll a symud;
• Ymarfer symudiadau cefnogi sefyll ac eistedd.
Dyddiadau
- 2026: 15 a 16 Gorffennaf, 4 a 5 Awst, 9 a 10 Medi, 6 a 7 Hydref, 12 a 13 Tachwedd, 8 a 9 Rhagfyr
- 2027: 28 a 29 Ionawr, 16 a 17 Chwefror, 2 a 3 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 4:30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Ymgynghorwyr Gofal Personol
- Grŵp targed:
Mae hwn yn gwrs dau ddiwrnod a rhaid mynychu’r dau ddiwrnod llawn.
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at ddechreuwyr newydd sydd yn gweithio mewn lleoliad gofal cymdeithasol.
Cynnwys y cwrs:
- Y gyfraith a goblygiadau cyfreithiol o godi a symud pobl.
- Asesu risg sefyllfaoedd, offer a phobl.
- Sut i godi a symud unigolyn mewn amrywiol sefyllfaoedd.
- Darparu gwybodaeth ar arfer gorau wrth godi a symud unigolyn
- Ystyried offer addas ar gyfer yr unigolyn a sut i archwilio offer e.e. sling, cymorth sefyll, teclyn codi, gwelyau. Mae hwn yn gwrs dau ddiwrnod.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.