Iechyd a diogelwch: bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn arddangosiadau ymarferol.
Os oes gan gynrychiolydd unrhyw gyflwr meddygol neu anaf presennol, rhaid iddo ymgynghori â’r hyfforddwr a’i hysbysu’n glir ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i’w galluogi i gymryd rhan.
Os nad yw cynrychiolwyr yn gorfforol abl i gyflawni’r arddangosiadau isod, ni ddylent fynychu’r cwrs nes eu bod yn gorfforol abl i wneud hynny.
Arddangosiadau:
Rhaid i gynrychiolwyr allu cyflawni CPR wrth benlinio ar y llawr am gyfnod o 2 funud. Ni fydd unrhyw gynrychiolwyr nad ydynt yn gallu gwneud hyn yn cael tystysgrif;
Bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gyflawni arddangosiadau mewn amgylchedd diogel a rheoledig;
Cyflawni CPR ar fodelau hyfforddi (manikins), gan gynnwys anadliadau achub (rhaid cynnal yr arddangosiad hwn wrth benlinio ar y llawr);
Dangos y weithdrefn ar gyfer tagu ar fodel hyfforddi neu drwy ddefnyddio festiau tagu;
Gosod sling;
Rhoi rhywun yn safle adfer.
Dyddiadau
- 2026:
- 9 Gorffennaf
- 17 Awst
- 20 Hydref
- 26 Tachwedd
- 17 Rhagfyr
- 2027:
- 13 Ionawr
- 10 Chwefror
- 10 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 1pm tan 4:15pm (12:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Gwasanaethau Hamdden
- Gwasanaethau targed: Sector gofal cymdeithasol
- Grŵp targed: Mae’r cwrs hwn i bobl gyda thystysgrif bresennol Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu Gymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith - staff gofal uniongyrchol o wasanaethau a gomisiynir; staff gofal a chefnogaeth o'r holl wasanaethau cymdeithasol; staff cefnogaeth gymunedol
Nodau ac amcanion y cwrs
Argymhellir cwblhau’r sesiwn 3 awr hon bob blwyddyn er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu gloywi eu sgiliau a sicrhau eu bod yn gweithio’n unol â’r safonau a’r rheoliadau diweddaraf.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr sicrhau bod eu swyddogion cymorth cyntaf yn gymwys ac yn cynnal eu sgiliau drwy gydol y tair blynedd mae eu tystysgrifau yn ddilys. Mae’r cwrs hyfforddiant tair awr hwn yn rhoi cyfle i swyddogion cymorth cyntaf ymarfer a diweddaru eu sgiliau fel swyddog cymorth cyntaf cymwys, ar unrhyw adeg tra mae eu tystysgrif cymorth cyntaf yn ddilys.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn argymell eich bod yn mynychu sesiwn gloywi unwaith y flwyddyn yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.