Oherwydd bod nifer y lleoedd yn brin, gallwn ond dderbyn un archeb fesul sefydliad ar y cwrs hwn.
Iechyd a diogelwch: bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn arddangosiadau ymarferol.
Os oes gan gynrychiolydd unrhyw gyflwr meddygol neu anaf presennol, rhaid iddo ymgynghori â’r hyfforddwr a’i hysbysu’n glir ymlaen llaw er mwyn sicrhau y gellir gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i’w galluogi i gymryd rhan.
Os nad yw cynrychiolwyr yn gorfforol abl i gyflawni’r arddangosiadau isod, ni ddylent fynychu’r cwrs nes eu bod yn gorfforol abl i wneud hynny.
Arddangosiadau:
Rhaid i gynrychiolwyr allu cyflawni CPR wrth benlinio ar y llawr am gyfnod o 2 funud. Ni fydd unrhyw gynrychiolwyr nad ydynt yn gallu gwneud hyn yn cael tystysgrif;
Bydd yn ofynnol i gynrychiolwyr gyflawni arddangosiadau mewn amgylchedd diogel a rheoledig;
Cyflawni CPR ar fodelau hyfforddi (manikins), gan gynnwys anadliadau achub (rhaid cynnal yr arddangosiad hwn wrth benlinio ar y llawr);
Dangos y weithdrefn ar gyfer tagu ar fodel hyfforddi neu drwy ddefnyddio festiau tagu;
Gosod sling;
Rhoi rhywun yn safle adfer.
Dyddiadau
- 2026: 11 Mai, 11 Mehefin, 3 Gorffennaf, 20 Awst, 28 Medi, 19 Hydref, 25 Tachwedd, 7 Rhagfyr
- 2027: 8 Ionawr, 5 Chwefror, 18 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 9:15am tan 4:15pm (9am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Gwasanaethau Hamdden
- Gwasanaethau targed: Sector gofal cymdeithasol
- Grŵp targed: Staff gofal uniongyrchol o wasanaethau a gomisiynir; staff gofal a chefnogaeth o'r holl wasanaethau cymdeithasol; staff cefnogaeth gymunedol
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae'r cwrs yn dysgu sgiliau achub bwyd ac yn cynnwys:
- Deall rôl y cymhorthydd cyntaf, gweithredu'n ddiogel, traws heintiad, cofnodi digwyddiadau, offer sydd ar gael
- Rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n anymwybodol
- Adfywio'r galon a'r ysgyfaint (CPR) rhoi cymorth cyntaf i glaf sy'n mygu, wedi ei anafu neu sy'n dioddef o sioc
- Darparu cymorth cyntaf priodol ar gyfer mân anafiadau, mân doriadau, sgryffiniadau, mân losgiadau a sgaldiadau
- Bydd asesiadau ffurfiannol ac adolygol yn cael eu cynnal yn ystod y cwrs a byddant yn gwirio a yw'r amcanion dysgu wedi eu cyflawni
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â’r Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.