Dyddiadau:
2024: 10 Medi & 16 Hydref
Manylion y cwrs:
- Amser: 9.15 cyrraedd ar gyfer cofrestru, 9.30 - 13:00
 
- Lleoliad: Zoom
 
- Hyfforddwr: Rod Landman (Arc England)
 
- Grŵp Targed: Gwasanaethau Targed – Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Tîm Datblygu a Dysgu Gweithlu Conwy
 
- Target Group:  Grŵp Targed – Staff cefnogi anabledd dysgu – pob oedran. Staff cefnogi awtistiaeth – pob oedran
 
Nodau ac amcanion y cwrs:
Nod y gweithdy hwn yw codi ymwybyddiaeth o niwed ar-lein (yn enwedig meithrin perthynas amhriodol) o ran pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth.  Fe’i hanelir at staff cefnogi gofal cymdeithasol.
Mae’r gweithdy yn tynnu ar ddysg o:
- Prosiectau ARC am droseddau cyfeillio, camfanteisio’n rhywiol, a meithrin perthynas amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol at ddibenion radicaleiddio ac eithafiaeth.
 
- Cyfraith achosion Llys Gwarchod
 
- Bond & Phippen: ‘Safeguarding Adults Online’
 
Cynnwys y gweithdai
- Cefndir: beth ydym ni’n ei ofni?
 
- Radicaleiddio, anableddau dysgu ac awtistiaeth
 
- Canfyddiadau prosiect ‘Get SMART’
 
- Niwed ar-lein: beth yw’r risgiau?
 
- Meithrin perthynas amhriodol: ffactorau risg, proses a dangosyddion
 
- Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio?
 
- Adnoddau allweddol: MCA a Galluogi Risg
 
Beth nesaf?
Bydd y cwrs ar-lein.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.