Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Model Risg 2 ECP


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2026: 12 Ionawr, 11 Mehefin, 25 Tachwedd
  • 2027: 04 Mawrth

Manylion y cwrs

  • Amser: 9:30am tan 16:30pm
  • Lleoliad: Ystafell Hyfforddi, Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Lyndsey Reis Uned Ddiogelu Conwy
  • Gwasanaethau targed: Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Y Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy'n Derbyn Gofal
  • Grŵp targed: Pob Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gweithio mewn Gwasanaethau Plant, Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol, Rheolwyr a Gweithwyr Preswyl yn gweithio mewn gwasanaethau plant


Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i atgyfnerthu hyder a chysondeb ymarferwyr wrth asesu risg o niwed sylweddol i blant drwy ymagwedd strwythuredig yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r hyfforddiant yn ceisio gwella’r broses o wneud penderfyniadau o ran trothwyon ar gyfer niwed sylweddol, ymgorffori fframwaith dadansoddi cyson ar draws y Gwasanaethau Plant, a chefnogi ymarfer myfyriol a goruchwyliaeth gan ddefnyddio model Risg 2.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i dempledi Risg 2 a’u defnydd ymarferol, gan ddatblygu sgiliau i werthuso gallu rhieni, diamddiffynedd plant, a niwed posibl. Bydd y cwrs yn archwilio’r defnydd o’r model mewn asesiadau cyn-geni a sefyllfaoedd diogelu cymhleth.

Gellir mynychu’r sesiynau hyn fel rhan o hyfforddiant gorfodol ar gyfer ymarferwyr penodol neu eu defnyddio fel hyfforddiant atgoffa.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content