Cyllideb a Threth y Cyngor 2026/2027
Heddiw (05/03/26), gosododd Aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy y Gyllideb a Threth y Cyngor ar gyfer 2026/27.
Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Cater, Aelod Cabinet Cyllid a Chynllunio Strategol, yr adroddiad i gyfarfod y Cyngor. Gwyliwch y drafodaeth yn: Y Cyngor - Dydd Iau 5 Mawrth 2026
Bu i’r Cyngor gymeradwyo’r Gyllideb a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2026/27.
Mae hyn yn golygu cynnydd o 6.09% i Dreth y Cyngor er mwyn ariannu gwasanaethau’r Cyngor, a chynnydd o 0.41% i ariannu ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sy’n gynnydd cyfunol o 6.5%.
Yn seiliedig ar Dreth y Cyngor Band D, mae hynny’n gynnydd o £115.01 (£2.21 yr wythnos) ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a chynnydd o £7.74 (£0.15 yr wythnos) ar gyfer ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae hynny’n gynnydd cyfunol o £122.75 (£2.36 yr wythnos), sy’n codi Treth y Cyngor Band D i £2,011.26.
Bydd lefel wirioneddol Treth y Cyngor y codir tâl amdano ar gyfer eiddo unigol yn dibynnu ar y band prisio ar gyfer yr eiddo, y praesept ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a'r Cyngor Tref / Cymuned lle mae'r eiddo.
Enghraifft Band D
| | 2025/26 Band D (£) | 2026/27 Band D (£) | Cynnydd Band D (£) | Cynnydd (%) |
| Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (sy’n cynnwys ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru) |
1,888.51 |
2,011.26 |
122.75 |
6.50% |
| Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru |
372.15 |
398.25 |
26.10 |
7.01% |
| Cynghorau Tref / Cymuned (Cyfartaledd) |
60.17 |
63.31 |
3.14 |
5.22% |
| Cyfanswm |
2,320.83 |
2,472.82 |
151.99 |
6.55% |
Mae gan Gonwy oddeutu 56,200 o anheddau sy’n talu Treth y Cyngor ac mae oddeutu 21,200 o’r rhain yn cael gostyngiad person sengl.
Mae oddeutu 9,500 o aelwydydd yn derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (a bydd rhai yn derbyn gostyngiad person sengl hefyd).
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a’r atodiadau yn: Agenda ar gyfer y Cyngor, ddydd Iau 5 Mawrth 2026, 10.00 am
Rhagor o wybodaeth:
Sut rydym yn gwario arian - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb? - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 05/03/2026