Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Hysbysiad Cyfnod Archwilio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Harbwr Conwy 2025/26

Hysbysiad Cyfnod Archwilio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Harbwr Conwy 2025/26


Summary (optional)
start content

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY AC HARBWR CONWY

ARCHWILIO CYFRIFON Y FLWYDDYN ARIANNOL 2025/2026


RHODDIR RHYBUDD yn ôl Adran 29 i 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau 21, 22 ac 24 o’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:

1. O ddydd Llun 20 Gorffennaf hyd ddydd Gwener 14 Awst 2026 yn gynwysedig (ag eithrio dyddiau Sadwrn a Sul), gall unrhyw un wneud cais i'r Cyfarwyddwr Strategol – Cyllid ac Adnoddau, Coed Pella, Bae Colwyn am gael archwilio a gwneud copiau o gyfrifon yr uchod am y flwyddyn sy’n diweddu 31ain Mawrth 2026 a phob llyfr, gweithredoedd, biliau contractau, talebau a derbynebau perthynol. I gysylltu â’r Cyfarwyddwr Strategol - Cyllid ac Adnoddau allwch chi e-bostio Accountancy.technical@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 574000 os gwelwch yn dda fel y gallwn wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio.

2. Ar neu ar ol ddydd Llun 17 Awst 2026 am 9.00 yb nes y caiff yr archwiliad ei gwblhau, gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd trwy Michelle Phoenix yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu e-bost, Michelle.Phoenix@audit.wales, ar gais unrhyw etholydd llywodraeth leol yn rhanbarth y cyfrifon, i roi cyfle i’r etholydd neu ei gynrychiolydd ddod gerbron yr archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o’r cyfrifon. Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad gan, neu ar ran, unrhyw etholydd os na fydd yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwrthwynebiad y bwriedir ei wneud a’r rhesymau am hynny. Pan fydd etholydd yn anfon rhybudd i’r Archwilydd bydd raid iddo hefyd anfon copi o’r rhybudd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r cyfeiriad isod.

3. Gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru trwy Michelle Phoenix yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu trwy e-bost, Michelle.Phoenix@audit.wales.

Amanda Hughes
Cyfarwyddwr Strategol – Cyllid ac Adnoddau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Conwy, LL30 9GN

Dyddiedig: 3 Gorffennaf 2026

end content