Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau Prom a Mwy Gwybodaeth ac amodau arddangoswyr

Prom a Mwy: Gwybodaeth ac amodau arddangoswyr


Summary (optional)
Dydd Sadwrn 13 Mai 2023
start content

Gwybodaeth ac Amodau Arddangoswyr

1.  Ceisiadau ar-lein ar gyfer stondin

Mae’n rhaid i bawb sy’n dymuno archebu lle gwblhau y ffurflen gais ar-lein. Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - y Trefnydd - yn gyfrifol amunrhyw gais ac mae’n cadw’r hawl i wrthod unrhyw fynediad yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.

2.  Cadw at y rheolau

Bydd pob arddangoswr yn amodol i’r amodau hyn fel y dehonglwyd gan y Trefnydd.

3.  Taliad am ofod stondinau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus 

Byddwn yn cysylltu â chi os bydd eich cais yn llwyddiannus. Bydd y cadarnhad yn cynnwys manylion ar sut i wneud taliad. Dylid talu cyn gynted â phosibl a dim hwyrach na dydd Gwener 19 Ebrill 2024.

4.  Dyrannu lle ar gyfer stondin

Y Trefnydd fydd yn penderfynu ar geisiadau am le a safle stondinau yn ôl disgresiwn.

5.  Is-osod

Ni fydd unrhyw arddangoswr yn is-osod nac yn neilltuo rhan o’r lle a ddyrannwyd iddynt.

6.  Oriau agor

Paratoi o 7am ymlaen. Cadw o 5pm ymlaen. Ni cheir symud unrhyw gerbyd rhwng 9.30am a 5.30pm. Gallai’r amseroedd newid er mwyn bodloni gofynion iechyd a diogelwch.

7.  Yswiriant

Bydd angen o leiaf £5,000,000 o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Bydd methu dangos prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyn y digwyddiad yn arwain at wrthod y cais.

8.  Tynnu'n ôl neu ganslo lle

Os bydd arddangoswr yn tynnu’n ôl o’r digwyddiad neu’n canslo lle am ba bynnag reswm, bydd yr holl ffioedd yn cael eu fforffedu ar gyfer costau gweinyddu. Mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl i ailddyrannu’r lle.

9.  Goruchwyliaeth oedolion

Mae’n RHAID i oedolyn (dros 18 oed) oruchwylio stondinau marchnad/stondinau elusen/arddangosfeydd/man arlwyo TRWY’R ADEG.

10.  Arfau ffug/posibl 

Ni ddylid gwerthu arfau ffug o gwbl ac atgoffir arddangoswyr na ddylent werthu arfau posibl i rai o dan 18 oed. Cynhelir gwiriadau ar y diwrnod. Eitemau wedi’u gwahardd – arfau, ‘silly string’ a phlastig untro.

11.  Trydan

Hysbyswch y Trefnydd os byddwch angen trydan (gweler y ffurflen archebu). NI CHANIATEIR GENERADUR PETROL AR Y SAFLE.

12.  Y defnydd o offer uchelseinydd

Ni chaniateir i arddangoswyr ddefnyddio offer uchelseinydd a gweiddi i ddenu cwsmeriaid.

13.  Masnachwyr achlysurol

Ni chaniateir masnachwyr achlysurol ar y diwrnod.

14.  Sbwriel

Dylai arddangoswyr sicrhau nad oes yna sbwriel ar eu stondin. Darperir biniau sbwriel masnachol a biniau ailgychu. Bydd methu â gwneud hynny’n arwain at wrthod eich ceisiadau yn y dyfodol.

15.  Casgliad stryd

Ni chaniateir casgliadau stryd ar y safle. Rhaid cadw rhoddion elusennol ar y stondin.

16.  Bwyd a diod

Ni chaniateir gwerthu bwyd a diod heb ganiatâd ymlaen llaw.

17.  Alcohol

Ni chaniateir yfed alcohol ar y safle yn ystod y digwyddiad. Ni ddylid ei werthu na’i gynnig fel gwobr gan unrhyw fasnachwr/elusen/arddangoswr na man arlwyo oni bai y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r Trefnydd.

18.  Cestyll neidio

Ni chaniateir defnyddio “Cestyll Neidio”.

19.  Parcio

Anfonir tocyn arddangoswr/cerbyd i bob arddangoswr/masnachwr tua 7 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae posibilrwydd i un cerbyd gael lle ger eu stondin, ond os nad, bydd y tocyn cerbyd yn caniatau mynediad i un car i faes parcio’r digwyddiad gerllaw. Ni chaniateir i unrhyw gerbydau ychwanegol barcio ger arddangosfeydd/stondinau, oni bai y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r Trefnydd.

20.  Cerbydau ar y safle

Subject to Health and Safety requirements, the vehicle pass must be clearly displayed. The movement of vehicles on the Promenade is prohibited between 9.30am and 5.30pm unless agreed in advance with the Organiser. All vehicles on site to drive at no more than 5mph with their hazard lights on for health and safety reasons.

21.  Mynediad a thynnu’r stondin i lawr

Dylai arddangoswyr gyrraedd y safle rhwng 7am ac 8.30am ar ddiwrnod y digwyddiad. Gellir tynnu’r stondin i lawr o 5.30pm oni bai y cytunwyd ymlaen llaw gyda’r Trefnydd.

22.  Parthau’r digwyddiad

Bydd y digwyddiad yn cynnwys parthau. Bydd eich arddangosfa yn y parth priodol gyda rheolwr parth. Cewch fanylion y sawl y dylech adrodd iddynt ar y diwrnod yn eich pecyn arddangoswr.

23.  Ceisiadau hwyr

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr.

24.  Hysbysebu

Caiff y digwyddiad cyfan ei hysbysebu ac mae’r Trefnydd yn annog arddangoswyr i beidio talu am hysbysebu ar wahân. Os dymunwch drafod unrhyw gyfleoedd marchnata sydd ar gael, yna cysylltwch â’r Trefnydd os gwelwch yn dda.

25.  Methiant i gadw at yr amodau

Bydd arddangoswyr sy’n methu cadw at yr amodau hyn yn rhoi’r hawl i’r Trefnydd ofyn i’r arddangoswr dynnu’r stondin i lawr a chael ei droi o’r safle.

26.  Ni ddarperir unrhyw ddodrefn

Mae’n gyfrifoldeb ar y stondinwyr i ddarparu dodrefni eu hunain. Cyfrifoldeb y stondinwyr yn gyfan gwbl yw gosod cyfarpar a strwythurau dros dro. Ni ddylid disgwyl i Drefnydd y digwyddiad gynorthwyo gyda hyn.

Mae’r Trefnydd yn cadw’r hawl i newid unrhyw amodau arddangos ar ddiwrnod y digwyddiad fel bo’r angen.

end content