Trodd miloedd o bobl allan i ddigwyddiad Prom A Mwy ’22 ar Bromenâd Bae Colwyn ddydd Sadwrn.
Cafodd teuluoedd eu diddanu gan sioe feiciau cyffrous, ‘scaletrix’ anferthol, sioe ddewin, beiciau modur pedair olwyn, a segways. Roedd adloniant byw, arddangosfa anifeiliaid rhyngweithiol, a’r ffair. Yn ogystal â dewis o ddanteithion hyfryd.
Dywedodd Natalie Hughes, Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy “Bob blwyddyn mae Prom A Mwy yn cynnig diwrnod gwych allan i deuluoedd yng Ngogledd Cymru, ac ni chawsant eu siomi unwaith eto eleni.
“Mae’n ddigwyddiad gwych sy’n cynnig gwledd o adloniant am ddim i bobl o bob oedran, a rhywbeth at ddant pawb. Roedd Prom A Mwy yn amgylchedd iawn am ddiwrnod gwych allan gyda ffrindiau a theulu.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i’n noddwyr Cyngor Tref Bae Colwyn, Knightly’s Fun Park a Maethu Cymru Conwy am ein helpu i wneud Prom a Mwy’22 yn llwyddiant”
Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau mawr yn Sir Conwy, dilynwch Digwyddiadau Conwy ar Facebook | Twitter | Instagram | a/neu www.conwy.gov.uk/digwyddiadau
