Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau Prom a Mwy Gwybodaeth pecyn noddi

Prom a Mwy: Gwybodaeth pecyn noddi


Summary (optional)
Dydd Sadwrn 11 Mai 2024
start content

Prom a Mwy yw ein digwyddiad teuluol blynyddol, sy'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 11 Mai eleni ar hyd promenâd Bae Colwyn. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn sy’n denu miloedd o bobl yn llenwi safle 1 cilomedr o hyd gyda gweithgareddau am ddim i’r teulu, adloniant byw, stondinau elusennau ac atyniadau ffair. Mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad lle mae’r gymuned yn dod ynghyd am ddiwrnod o hwyl i’w gofio!

Gyda digonedd o weithgareddau am ddim i’r teulu eu mwynhau, mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad cymunedol ei naws gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ardal Bae Colwyn, ac mae hefyd yn denu rhai o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt.

Mae Prom a Mwy yn cynrychioli ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn i ddarparu digwyddiadau fforddiadwy a chyffrous ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr ac mae’n gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau lleol ymgysylltu â’r cyhoedd a rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal maent yn ei gwasanaethu.

Pam noddi Prom a Mwy?

Dyma gyfle gwych i fusnesau hyrwyddo eu hunain o flaen cynulleidfa darged o dros 10,000 o bobl a bydd ein tîm yn Nigwyddiadau Conwy yn gweithio gyda’ch cwmni er mwyn i'ch brand gael cymaint o sylw â phosib', eich helpu i ymgysylltu â’r gymuned a chefnogi eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Gall noddwyr Prom a Mwy ddisgwyl:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’u brand o flaen cynulleidfa darged yn Prom a Mwy
  • Budd o gael stondin a/neu bresenoldeb gweithgaredd yn y digwyddiad
  • Mwy o welededd i'w brand ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cael logo eu cwmni wedi’i ychwanegu ar dudalen we cefnogwyr Prom a Mwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cael hyrwyddo cystadlaethau/cynigion cwmni drwy gyfryngau cymdeithasol Prom a Mwy a/neu o lwyfan y digwyddiad yn ystod y diwrnod.
  • Cael platfform i ymgysylltu â’r gymuned am eu busnes.
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – cyfle i ddangos ymrwymiad y cwmni i faterion cymdeithasol/amgylcheddol wrth ddatblygu delwedd gadarnhaol i’w brand o fewn y gymuned.
  • Defnyddio’r digwyddiad i arddangos yr hyn sydd gan y cwmni i’w gynnig.

"Rydyn ni'n dod i Prom a Mwy ers blynyddoedd. Rydyn ni'n ddiolchgar am eu cefnogaeth nhw, gan fod hynny'n caniatáu i ni gysylltu gyda chwsmeriaid hen a newydd.”

(Martin Anderson, Piggin Delicious)

 

Ffyrdd o gefnogi

Noddi gweithgaredd o £200

  • Llain am y diwrnod cyfan ar gyfer gweithgareddau a hyrwyddo
  • Poster ger y gweithgaredd a gytunwyd gyda brand y cwmni
  • Logo ar ein tudalen we ‘Cefnogwyr y Digwyddiad’
  • Neges cyfryngau cymdeithasol ar dudalennau DigwyddiadauConwy ac EventsConwy yn cyrraedd 26,000 o ddilynwyr ar draws Facebook, Instragram a Twitter
  • Sylw gan y cyflwynydd

 

Lle ar gyfer stondin o £100 / Lle ar gyfer stondin elusen £50
Cyfle i’ch cwmni hyrwyddo ac ymgysylltu â’r teuluoedd

Am fwy o wybodaeth neu i drafod pecyn unigryw, gallwch gysylltu â Rhian Wood, Swyddog Digwyddiadau, rhian.wood@conwy.gov.uk

end content