Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Hamdden, Chwaraeon ac Iechyd Arfordir a chefn gwlad Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych

Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi eu bod yn cydweithio i sefydlu Fforwm Mynediad Lleol Dwyrain Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2023/24. Bydd y fforwm newydd hwn yn dod ag unigolion ynghyd o’r gymuned leol i gynrychioli ystod eang o ddiddordebau a fydd yn rhoi cyngor strategol i’r Gwasanaethau Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad.

Bydd y Fforwm yn anelu i gynnwys 12 i 20 o wirfoddolwyr, a fydd yn helpu’r Cyngor i wella mynediad i gefn gwlad a chyfleoedd hamdden awyr agored i bawb.

Bydd aelodaeth yn cael ei dethol o amrywiaeth o ddiddordebau, gan dargedu cyfraniad gan y rhai sy’n defnyddio cefn gwlad a’r rhai sy’n ei reoli. Yn ystod cyfarfodydd, bydd aelodau yn cymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol ac yn ceisio cytundeb wrth wneud penderfyniadau a rhoi cyngor.

Bydd aelodaeth yn targedu cynrychiolwyr o:

  • Ffermwyr a pherchnogion tir
  • Cymdeithas y Cerddwyr a grwpiau diddordeb mynediad eraill
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac elusennau cadwraeth eraill
  • Reidwyr llwybrau
  • Sefydliadau ffermio a Chynghorau Tref a Chymuned
  • Cymdeithas Geffylau Prydain a sefydliadau cysylltiedig eraill
  • SUSTRANS
  • Defnyddwyr anabl
  • Cynghorwyr Sir
  • Cynrychiolwyr cymunedol sydd â diddordeb mewn hamdden a mynediad i gefn gwlad


Beth yw nodau ac amcanion y fforwm?

  • Cefnogi a chynghori’r Cynghorau, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ar dir mynediad agored yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac ystyried ceisiadau ar gyfer cyfyngiadau neu gau mynediad ar gyfer rheolaeth neu gadwraeth tir.
  • Cynorthwyo gyda chyngor ar wella a datblygu’r rhwydweithiau hawliau tramwy sy’n bodoli ac adnabod unrhyw gysylltiadau coll.
  • Rhoi cyngor ar Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy’r siroedd a strategaethau hamdden a mynediad eraill.
  • Llywio a monitro gweithrediad Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy i sicrhau rhwydwaith integredig sy’n bodloni anghenion defnyddwyr heddiw ac yn y dyfodol.
  • Cydbwyso anghenion defnyddwyr mynediad gyda rheoli tir ac anghenion cadwraeth ardal.
  • Paratoi adroddiad blynyddol o’i weithgareddau.
  • Ymateb i ymgynghoriadau’r Llywodraeth ar reoli mynediad.
  • Cynrychioli’r Cynghorau mewn Fforymau Mynediad Lleol rhanbarthol.

Ffurflen gais aelodaeth


Beth sy’n digwydd yn y cyfamser?

Bydd Conwy a Sir Ddinbych yn ailgychwyn y cyn Fforwm Mynediad Lleol yn ystod Mawrth 2023. Trefnir cyfres o gyfarfodydd i groesawu aelodau o’r cyn CEDLAF i ailymuno a chwrdd â  Gwasanaethau Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad ar draws Conwy a Sir Ddinbych yn ystod 2023, tra bod Fforwm Mynediad Lleol newydd 2023/24 yn cael ei greu.

Byddwn yn anfon gwahoddiadau at aelodau CEDLAF yn ystod Chwefror 2023.

Fforwm Mynediad Lleol - Cyfarfodydd, cofnodion a rhaglenni

Am fwy o wybodaeth am Fforymau Mynediad Lleol, ewch i https://naturalresources.wales/days-out/recreation-and-access-policy-advice-and-guidance/networks-and-partnerships/local-access-forums/?lang=cy

end content