Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Iechyd yr Amgylchedd Iechyd a Diogelwch Rhoi gwybod am fater Iechyd a Diogelwch

Rhoi gwybod am fater Iechyd a Diogelwch


Summary (optional)
Mae deddfau iechyd a diogelwch yn berthnasol i bob busnes. Fel cyflogwr, neu berson hunangyflogedig, chi sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich busnes. Mae deddfau iechyd a diogelwch yno i'ch diogelu chi, eich gweithwyr a'r cyhoedd rhag peryglon yn y gweithle.
start content

Pe bai gennych unrhyw bryderon am iechyd a diogelwch mewn eiddo penodol, neu os ydych yn bryderus am amodau neu arferion gwaith, e-bostiwch diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk.

Mae yna amrywiaeth eang o gwynion y bydd y cyngor yn eu hymchwilio, fodd bynnag os oes gennych unrhyw bryderon am arferion iechyd a diogelwch mewn eiddo penodol, neu os ydych yn cael cyfarwyddyd i wneud rhywbeth yr ydych yn teimlo y gallai beryglu eich iechyd a'ch diogelwch chi, yna cysylltwch â ni.

Bydd dull a dyfnder yr ymchwiliad yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwyn.  Os credir y gallai’r amgylchiadau beri risg arwyddocaol i iechyd a diogelwch gweithwyr neu’r cyhoedd, neu os bydd achwynwyr yn diwallu nodau strategol a/neu leol, efallai y bydd ymweliad ac ymchwiliad yn briodol. Dan amgylchiadau eraill efallai mai ymchwiliad drwy ohebiaeth neu ymholiadau ffôn ar y cyd â chadarnhad ysgrifenedig fydd yn digwydd.

Byddwn bob amser yn ceisio cadw eich manylion yn gyfrinachol, fodd bynnag efallai weithiau y bydd yn angenrheidiol eu datgelu ac os felly fe wnawn ofyn i chi yn gyntaf.  Weithiau efallai y bydd yr unigolyn dan sylw yn dyfalu pwy wnaeth y gŵyn.

Yr hyn y dylech ei wneud yn gyntaf yw trafod y mater gyda’ch cyflogwr.

end content