Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymyriadau yn y gweithle


Summary (optional)
Mae'r tîm yn cynnal gwahanol fathau o ymweliadau â busnesau i hybu a diogelu iechyd, diogelwch a lles gweithwyr ac aelodau'r cyhoedd.
start content

Mae gorfodi cyfraith iechyd a diogelwch yn cael ei rannu rhwng yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol, yn dibynnu ar y math o eiddo. Mae rhannu’r cyfrifoldebau hyn yn gallu bod yn gymhleth, ond yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol yn delio ag:

  • Adeilad masnachu
  • Warws
  • Ymgymeriadau trafnidiaeth
  • Gwestai
  • Cartrefi Gofal Preswyl
  • Adeiladau hamdden
  • Gwasanaethau personol (e.e. tyllu'r corff)
  • Swyddfeydd
  • Diogelwch meysydd chwaraeon.


Pwrpas ymyriadau iechyd a diogelwch

Mae'r prif gyfrifoldeb am reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle yn gorwedd gyda chyflogwr y busnes, fodd bynnag, mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn ymweld â gweithleoedd amrywiol i wirio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac i roi cyngor.

Cynllunio ymyriadau

Mae archwiliadau rhagweithiol yn cael eu rhaglennu yn flynyddol ar sail blaenoriaethau cenedlaethol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Ar y cyd ag archwiliadau gweithleoedd, rydym yn cyflawni 'gwaith menter' yn seiliedig ar Help Great Britain Work Well Strategy yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a blaenoriaethau lleol eraill.  Mae'r tîm yn gweithio gydag Awdurdodau eraill Gogledd Cymru a Chymru Gyfan i nodi a thargedu mentrau iechyd a diogelwch tebyg yn y gweithle. 
Er bod llawer o'r mentrau hyn wedi'u seilio ar gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, lle mae achosion o dorri cyfraith iechyd a diogelwch yn cael eu nodi a phobl mewn perygl, byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol.

Y Panel Herio Rheoleiddio Annibynnol

Bydd y panel herio rheoleiddio annibynnol yn edrych i mewn i gwynion ynghylch cyngor a roddir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, neu Archwilwyr Awdurdod Lleol am iechyd a diogelwch, y credwch chi sy'n anghywir neu'n mynd y tu hwnt hyn i’r sydd ei angen i reoli'r risg yn ddigonol. 

Bydd y Panel yn cynnwys aelodau annibynnol a fydd â’r cymhwysedd a'r profiad i asesu cyngor sydd wedi ei roi ar faterion rheoleiddio.

Cyn i chi godi’r mater gyda'r panel, dylech fod wedi ceisio datrys y mater yn gyntaf gyda'r Archwiliwr perthnasol a'u rheolwr yng Nghyngor Conwy.

end content