Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelwch ar Welyau Haul


Summary (optional)
Rhaid i fusnesau gwelyau haul gadw at y cyfyngiadau oed cyfreithiol, a gyflwynwyd gan fod yr ifanc mewn mwy o berygl o ddatblygu canser y croen.
start content


Galwad i Weithredu (ymholiad / cwyn Gwelyau Haul)

Rheoliadau Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 (Cymru) 2011

Mae Deddf (Rheoleiddio) Gwelyau Haul 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sicrhau nad oes unrhyw berson o dan 18 oed:

  • yn defnyddio gwely haul; 
  • yn cael y cynnig o ddefnyddio gwelyau haul, neu 
  • yn bresennol mewn parth dan gyfyngiad

Mae peidio â chydymffurfio â'r Ddeddf yn drosedd, ac efallai bydd cosb o hyd at £20,000.

Cafodd rheolaethau pellach eu cyflwyno gan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 a ddaeth i rym ar 31 Hydref 2011:

  • gofyniad i oruchwylio defnydd gwelyau haul gyda phob busnes gwely haul
  • gwahardd gwerthu neu logi gwelyau haul i rai dan 18 oed
  • ymestyn gofynion y rheoliadau i fusnesau sy'n gweithredu o eiddo domestig
  • fformat penodol a chynnwys y wybodaeth iechyd sy’n cael eu harddangos ac ar gael i oedolion a allai geisio defnyddio gwely haul 
  • gwahardd y ddarpariaeth neu arddangos unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag effeithiau iechyd defnyddio gwelyau haul, heblaw deunydd sy'n cynnwys yr wybodaeth am iechyd a ragnodir gan y rheoliadau, a
  • gofyniad am ddarparu a gwisgo sbectolau amddiffynnol diogel a phriodol ar gyfer oedolion.

I roi gwybod am achosion o beidio â chydymffurfio â'r gyfraith, neu am gyngor ac arweiniad ar sut i gydymffurfio, llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.

Rhagor o wybodaeth am welyau haul a'r ddeddfwriaeth:

end content