Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hysbysiad Tŵr Oeri


Summary (optional)
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor os yw eich safle masnachol yn defnyddio tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol.
start content
Hysbysiad Tŵr Oeri
Gwneud cais ar-lein

Os ydych chi'n rheoli eiddo annomestig rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol am leoliad tŵr oeri neu gyddwysydd anweddu. Mae hyn yn caniatáu'r awdurdod a'r HSE i wybod lleoliad offer neu gyfarpar a ffynhonnell bosibl bacteria clefyd y lleng filwyr.

Ydw i angen y drwydded hon ac ydw i'n gymwys?

Os ydych chi'n gweithredu tŵr oeri neu gyddwysydd anweddu rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig ar ffurflen wedi'i chymeradwyo gan y Swyddog Iechyd a Diogelwch.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud:

Rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth hysbysu o fewn un mis i'r newid, yn ysgrifenedig.

Os yw'r ddyfais yn peidio bod yn ddyfais hysbysadwy rhaid i chi roi gwybod yn ysgrifenedig i'r awdurdod lleol cyn gynted a phosibl.

Beth sy'n rhaid i ni ei wneud:

Ar ôl cael y rhybudd wedi'i gwblhau bydd yr Awdurdod yn rhoi'r manylion ar y Gofrestr Statudol.  Hefyd, bydd copi o'r cais yn cael ei roi i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ôl y gofyn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn derbyn cadarnhad bod yr hysbysiad wedi'i dderbyn. Bydd copi o'r ffurflen hysbysu yn cael ei gosod ar y Gofrestr Statudol i gofnodi lleoliad y ddyfais hysbysadwy yn y Fwrdeistref Sirol.

Awdurdod: Cyngor Bwrdeistref Sirol ConwyDyddiedig: 14/02/2023Dyddiad Cofrestru
Tesco Stores Ltd 6G Road, Cyffordd Llandudno, Gwynedd, LL31 9XY 26/04/2006
Cygnet Plastics Ltd Swan Road, Parc Busnes Mochdre, Mochdre, LL28 5HB 26/06/2008

 

Taliadau a Ffioedd:

Nid oes rhaid talu ffi am yr hysbysiad hwn.

Gwybodaeth Ddefnyddiol:

Mae rhagor o wybodaeth ar reoli bacteria clefyd y lleng filwyr mewn tyrau oeri ar gael o wefan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Cysylltwch â ni

Adain yr Amgylchedd/Llygredd
Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Ffôn: 01492 575279
Ffacs: 01492 575204

end content