Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tystysgrif safle clwb


Summary (optional)
I ddarparu lluniaeth hwyr y nos ac adloniant rheoledig, ac i werthu alcohol, mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hŷn nag 18 oed.
start content

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau gyda chynllun o'r safle, copi o reolau'r clwb ac atodlen gweithredu'r clwb.

Mae atodlen gweithredu'r clwb yn ddogfen y mae'n rhaid iddi fod mewn fformat penodol ac sy'n cynnwys gwybodaeth am:

  • weithgareddau'r clwb
  • amseroedd y gweithgareddau
  • amseroedd agor eraill
  • os yw cyflenwadau alcohol ar gyfer yfed yn y safle neu oddi arno, neu'r ddau
  • y camau y mae'r clwb yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen

Ffioedd

Mae’r ffi ar gyfer y cais yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig cenedlaethol yr eiddo.

 CaisBand ABand BBand C Band DBand E

Cais ac amrywiad Tystysgrif Safle Clwb* 

£100

£190

£315

£450

£635

Adnewyddu blynyddol

£70

£180

£295

£320

£350

 

Ffioedd EraillCost

Tystysgrif neu grynodeb yn cael ei dwyn neu'n mynd ar goll ac ati

£10.50

Rhoi gwybod am newid enw neu gyfeiriad

£10.50

 

Cymhwyster

Bydd angen trwydded arnoch os ydych yn glwb cymwys a rhaid iddynt fodloni'r amodau canlynol: 

  • ni fydd person yn cael aelodaeth neu fel ymgeisydd ar gyfer aelodaeth i unrhyw freintiau aelodaeth, heb gyfnod o ddau ddiwrnod ar y lleiaf o'u cais am aelodaeth neu enwebiad, a'u haelodaeth yn cael ei rhoi
  • bod rheolau clwb yn datgan na all y rhai sy’n dod yn aelod heb enwebiad na chais gael breintiau aelodaeth am o leiaf ddau ddiwrnod rhwng dod yn aelodau a’u derbyn i'r clwb
  • bod y clwb yn cael ei sefydlu a'i gynnal yn ddidwyll
  • bod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • bod alcohol ddim ond yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle ar ran y clwb, neu gan y clwb

Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflenwi alcohol. Dyma’r amodau:

  • bod alcohol a brynir ar gyfer y clwb a'i gyflenwi gan y clwb yn cael ei wneud gan aelodau o’r clwb sydd dros 18 oed ac yn cael eu hethol i wneud hynny gan yr aelodau
  • nad oes unrhyw berson ar draul y clwb yn derbyn unrhyw gomisiwn, canran neu daliad tebyg arall mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
  • nad oes unrhyw drefniadau ar gyfer unrhyw un i dderbyn budd ariannol o gyflenwi alcohol, ar wahân i unrhyw fudd i'r clwb neu i unrhyw berson yn anuniongyrchol o'r cyflenwad yn rhoi elw o redeg y clwb.

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Trwyddedu 2003

Prosesu ac Amserlenni

Mae'n rhaid i ni ddelio gyda'ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos, efallai y bydd y safle’n cael ei arolygu cyn i'ch cais gael ei ystyried.

Ar ôl y 28 diwrnod, ar yr amod nad oes unrhyw sylwadau wedi'u gwneud, bernir bod y dystysgrif yn cael ei rhoi. 

Os yw sylwadau wedi'u gwneud ac na ellir cyfryngu, bydd Gwrandawiad yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio yn cael ei drefnu. Gall y Pwyllgor ganiatáu'r Dystysgrif, caniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais. 

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

  • Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
  • Rhaid i apeliadau gael eu gwneud i'r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad.
  • Gall deilydd trwydded hefyd apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i wahardd unrhyw weithgaredd clwb.

Manylion cyswllt:

  • Drwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
  • Dros y ffôn: 01492 576626
    Dydd Llun i Ddydd Gwener 10.00 i 12:30
  • Drwy'r post:
Adain Drwyddedu
PO Box 1
Conwy
LL30 9GN
end content