Mae arnoch angen Rhybudd Digwyddiad Dros Dro os ydych chi’n dymuno cynnal y gweithgareddau trwyddedadwy hyn ar safle didrwydded:
- gwerthu alcohol
- gweini alcohol i aelodau clwb preifat
- darparu adloniant, e.e. cerddoriaeth, dawnsio neu ddigwyddiadau chwaraeon dan do
- gweini bwyd poeth neu ddiod rhwng 11pm a 5am
Cyn i chi wneud cais
Darllenwch y wybodaeth hon:
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro: Nodiadau Canllaw
Datganiad Polisi Trwyddedu (Dogfen PDF)
Mae’n rhaid i chi hefyd wirio:
- A oes angen caniatâd arall arnoch, megis caniatâd gan berchennog y tir i ddefnyddio’r safle
- A oes cyfyngiadau eraill, megis cyfyngiadau ar ganiatâd cynllunio neu gyfyngiadau ar eich prydles
- Ni fydd y Rhybudd Digwyddiad Dros Dro yn gwrth-wneud y caniatâd uchod ac mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â phob cyfyngiad.
Pryd i wneud cais
- Mae’n rhaid i ni dderbyn eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Safonol o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad.
- Gallwn dderbyn cais am rybudd dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith cyn eich digwyddiad, ond bydd hwn yn Rybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr (TEN Hwyr).
- Mae’r broses a’r ffurflenni yr un fath ar gyfer Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro Safonol a Hwyr.
Ffioedd
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro - £21.00
Rhybudd Digwyddiad Dros Dro Hwyr - £21.00
Prosesu ac amserlenni
- Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Dros Dro ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 10 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn cyflwyno rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad. Gallwch apelio i’r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod, ond nid o fewn 5 diwrnod i’r digwyddiad.
- Byddwn yn prosesu Rhybudd Digwyddiad Hwyr ar y diwrnod gwaith nesaf a bydd hyn yn cymryd 5 diwrnod gwaith. Os ydym ni’n derbyn gwrthwynebiad, byddwn yn cyflwyno rhybudd gwrthwynebu sy’n amlinellu’r gwrthwynebiad ac ni fydd y digwyddiad yn cael ei ganiatáu.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Cadwch eich Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man diogel yn y digwyddiad.
- Mae’n rhaid i chi arddangos copi o’r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro mewn man amlwg yn yr eiddo.
- Os ydych chi’n gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi anfon dau gopi o’r rhybudd i Adain Drwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru.
Deddfwriaeth ac amodau
Deddf Trwyddedu 2003
Manylion Cyswllt Awdurdodau Cyfrifol
Manylion Cyswllt Awdurdodau Cyfrifol
Cysylltwch â ni:
E-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576626
Dydd Llun i ddydd Iau
10.00am tan 12.30pm
Post
Yr Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Bae Colwyn,
LL29 0GG