Sut i wneud cais
Rhaid anfon cais i awdurdod trwyddedu'r ardal lle mae'r eiddo wedi'i leoli. Mae gofyn i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o'r cais i unrhyw berson neu awdurdod cyfrifol arall.
Rhaid i geisiadau fod mewn fformat penodol a rhaid cynnwys unrhyw ffi sy'n ofynnol gyda'r cais. Hefyd, mae angen rhaglen weithredu, cynllun o'r eiddo a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr yr eiddo (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy). Bydd rhaglen weithredu yn cynnwys y manylion canlynol:
- y gweithgareddau trwyddedadwy
- yr amseroedd y bydd y gweithgareddau'n digwydd
- unrhyw amseroedd eraill y bydd y safle ar agor i'r cyhoedd
- yn achos ymgeiswyr sy'n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded
- gwybodaeth mewn perthynas â goruchwyliwr y safle
- p'un a fwriedir i unrhyw alcohol a fydd yn cael werthu gael ei yfed ar y safle, oddi arno, neu'r ddau
- y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
- unrhyw wybodaeth ofynnol arall
Ffioedd:
Mae’r ffi ar gyfer y cais yn dibynnu ar werth ardrethol annomestig cenedlaethol yr eiddo.
Cais | Band A Dim - £4,300
| Band B £4,301 – £33,000
| Band C £33,001 – £87,000 | Band D £87,001 – £125,000
| Band E £125,001 +
|
Cais am Drwydded Eiddo* neu Amrywiad i Drwydded Eiddo |
£100 |
£190 |
£315 |
£450 |
£635 |
Mân Amrywiad |
£89 |
£89 |
£89 |
£89 |
£89 |
Adnewyddiad blynyddol |
£70 |
£180 |
£295 |
£320 |
£350 |
*mae ffioedd ychwanegol ar gyfer ceisiadau am drwydded eiddo, a ffi flynyddol ar gyfer digwyddiadau ar raddfa eithriadol o fawr (5000+); cysylltwch â'r swyddfa drwyddedu.
Ffioedd eraill | Pris |
Os bydd trwydded safle neu grynodeb yn cael ei dwyn neu'n mynd ar goll |
£10.50 |
Rhoi gwybod am newid cyfeiriad |
£10.50 |
Cais i amrywio trwydded i ddynodi unigolion yn oruchwyliwr eiddo |
£23.00 |
Cais i drosglwyddo trwydded eiddo |
£23.00 |
Hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth ac ati deiliad y drwydded |
£23.00 |
Rhaid i'r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r cais, a all fod yn destun amodau, cyn belled ag nad oes unrhyw sylwadau yn dod i law. Rhaid cynnal gwrandawiad os ceir unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais. Os cynhelir gwrandawiad, gellir caniatáu'r drwydded neu ei chaniatáu gydag amodau ychwanegol, gellir gwahardd gweithgareddau trwyddedadwy a restrir yn y cais neu gellir gwrthod y cais.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad o'i benderfyniad i'r ymgeisydd, unrhyw unigolyn sydd wedi cyflwyno sylwadau perthnasol ac i bennaeth yr heddlu.
Deddfwriaeth ac Amodau
Deddf Trwyddedu 2003
Prosesu ac Amserlenni
Rhaid i ni ddelio gyda'ch cais o fewn 28 diwrnod a gwirio bod hysbysiad cyhoeddus yn cael ei arddangos; efallai y byddwn yn archwilio'r eiddo cyn i'ch cais gael ei ystyried.
Ar ôl y 28 diwrnod, cyn belled ag nad oes unrhyw sylwadau wedi dod i law, ystyrir bod y drwydded wedi cael ei chaniatáu.
Os daeth sylwadau i law ac nad oes modd cyfryngu, byddwn yn trefnu Gwrandawiad yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio. Gall y Pwyllgor ganiatáu'r Dystysgrif, ei chaniatáu gydag addasiadau neu wrthod y cais.
Dulliau Apelio / Unioni:
- Os gwrthodir cais, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.
- Rhaid apelio i'r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i'r penderfyniad.
- Gall deilydd trwydded hefyd apelio yn erbyn penderfyniad i roi amodau ar dystysgrif neu i wahardd unrhyw weithgaredd clwb.
Manylion cyswllt:
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Bae Colwyn,
LL29 0GG
Gweler hefyd