Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Digwyddiad ar y Cyd


Summary (optional)
start content

Digwyddiad ar y Cyd

Wythnos Cyflogadwyedd Gogledd Cymru

Dyma Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dod â chyflogwyr, darparwyr sgiliau a budd-ddeiliaid lleol allweddol ynghyd ar gyfer Wythnos Cyflogadwyedd Gogledd Cymru gyda’r bwriad o fynegi’r sgiliau sydd eu hangen a’r heriau sy’n bodoli ar lefel rhanbarthol a lleol.

Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen i gynllunio, trefnu a chynnal Wythnos Cyflogadwyedd Gogledd Cymru ac roedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy wedi gwirioni i gael gwahoddiad i fod yn aelod o’r grŵp hynny a fu’n trefnu nifer o weithgareddau gan gynnwys Cynhadledd i staff a oedd yn gynhadledd ryngweithiol wyneb yn wyneb am ddiwrnod llawn ar gyfer staff rheng flaen, cynghorwyr a mentoriaid sy’n gweithio yn y sector Cyflogadwyedd i’w cefnogi nhw i ennill gwell dealltwriaeth o ddarpariaeth ar draws y rhanbarth.

Cynhaliwyd yr Wythnos Cyflogadwyedd Gogledd Cymru ym Mawrth 2023 a bu’n llwyddiant ysgubol.

Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal

Trefnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal yn Hydref 2022 ar gyfer y 130 o Unigolion sy’n Gadael Gofal ac yn byw yn y Sir.

Bwriad y digwyddiad wythnos o hyd, a gynhaliwyd yn swyddfa Coed Pella, oedd i ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial gydag arddangosfeydd gan gyflogwyr lleol, cwmni cyflogaeth a hyfforddiant, ac roedd y Canolbwynt yn ddylanwadol gan wahodd nifer o ddarparwyr sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc gan gynnwys Gyrfa Cymru, WeMindTheGap, Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Creu Menter, Grŵp Llandrillo Menai, Mentor M-Sparc/Hwb a Hyfforddiant Gogledd Cymru. Roedd hefyd gweithdai ar ysgrifennu CV, cyfweliadau ffug a sesiynau magu hyder.

Manteisiodd y Ganolbwynt yn llwyr o’i stondin drwy siarad gyda phob person ifanc a gofalwr maeth i ddarganfod mwy am eu bywydau a’u dyheadau gyrfaol gan egluro’r hyn y mae’r Ganolbwynt yn ei gynnig fel gwasanaeth a pha gefnogaeth y gallwn ei gynnig i’w helpu nhw ar eu llwybr gyrfaol, gyda saith o rai sy’n gadael gofal yn cofrestru ar ein rhaglen.

Dyma’r Canolbwynt hefyd yn gwahodd Debbie Doig-Evans a Lisa Jones o’r tîm y Rhai sy’n Gadael Gofal i siarad a hyrwyddo’r wythnos ar Sound Radio a Bayside Radio.

Cynllun Addysg Beirianneg Cymru

Gwahoddwyd Canolbwynt i helpu asesu Prosiectau Chweched Dosbarth y Cynllun Addysg Beirianneg Cymru gan fynychu’r Diwrnod Gwobrwyo a Chyflwyno yn Venue Cymru ar 22 Mawrth 2023. Mae pob panel beirniadu yn cynnwys tri asesydd sydd wedi trafod yr ymgeiswyr cyn y diwrnod ac wedi ymweld â phob un o’r prosiectau yn eu tro lle roedd y myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad 10 munud o hyd, gyda sesiwn Cwestiynau ac Atebion i ddilyn. Cyflwynwyd Chwe Gwobr i:

  • Goleg Meirion Dwyfor - Pwllheli am y Defnydd Gorau o Fathemateg
  • Ysgol Uwchradd Dinbych am y Defnydd Gorau o Beirianneg a Thechnoleg
  • Ysgol Friars am y Defnydd Gorau o Egwyddorion Peirianneg Mecanyddol
  • Ysgol Bryn Elian am y Dyluniad Mwyaf Arloesol neu wedi’i Addasu
  • Coleg Menai am y Defnydd Gorau o STEM ar gyfer Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
  • Ysgol Glan Clwyd am yr Adroddiad Ysgrifenedig Gorau
end content