Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Helpu Pobl Ifanc


Summary (optional)
start content
Yn 2022, roedd y Canolbwynt yn llwyddiannus mewn sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu a chefnogi preswylwyr ifanc Conwy i addysg neu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau hir oes, dod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig.

Mae’r cyllid ar gyfer unrhyw un rhwng 16 a 24 oed yn dod o’r rhaglen Gwarant i Bobl Ifanc, rhaglen sy’n deillio o’r cydnabyddiaeth mai’r genhedlaeth hon sydd wedi dioddef fwyaf o’r pandemig, a’r gydnabyddiaeth fod eu profiad yn mynd i gael effaith ar swyddogaethau busnes, diwylliant, addysg a’r gymdeithas ehangach yn y blynyddoedd i ddod.

Nid y genhedlaeth hon yw eich cwsmer nodweddiadol am eu bod nhw’n byw bywyd o wybodaeth ar flaenau ei bysedd ac yn disgwyl bod yn rhan o rywbeth mewn ffordd gofiadwy, felly er mwyn gwneud yn siŵr fod y gwaith marchnata yn effeithiol mae’r Canolbwynt yn cydnabod bod angen hunaniaeth ar wahân sy’n mynd i apelio ac sy’n berthnasol i’r genhedlaeth hon. Gofynnwyd i YouthFriendly yng Nghonwy sy’n arbenigo mewn defnyddio dyluniad, ffilm a’r cyfryngau i gyfathrebu gyda phobl ifanc, i greu logo newydd sy’n ail-fyw'r egni, dyhead a’r siwrnai bositif y mae’r Canolbwynt yn ei gynnig i gyfranogwyr, a bellach gellir ei weld ar draws yr holl weithgareddau marchnata ac ymrwymo i unigolion 16-24 oed.

Mae’r Ganolbwynt hefyd wedi cryfhau ei dîm drwy benodi Sarah Davies fel Swyddog Datblygu’r Prosiect a Lyndsay Edwards fel Swyddog Ymrwymiad.

Ers sicrhau’r cyllid ychwanegol mae’r Canolbwynt wedi cynnal rhaglen brysur o ddigwyddiadau i alluogi pobl ifanc 16-24 oed i ddatblygu sgiliau wrth ddarparu llwybr clir i gyflogaeth gan gynnwys:

  • Symud Ymlaen - cwrs cyflogadwyedd 6 wythnos gydag Youth Shedz Abergele. Gyda uchafswm o 12 cyfranogwyr, roedd y cwrs mor llwyddiannus fel bod angen trefnu cwrs ychwanegol cyn diwedd y flwyddyn ariannol ac wyth o’r cyfranogwyr wedi helpu yn y Ffair Yrfaoedd ym mis Mawrth.
  • Penwythnos gweithgareddau awyr agored yng ngwersyll Glan Llyn a oedd yn cynnwys agweddau cyflogadwyedd wedi’u plethu i’r amserlen fel bod cyngor am yrfaoedd a hyfforddiant, ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliadau ar gael.
  • Cafodd rhaglen Llwybr Gweithgareddau Awyr Agored 10 wythnos ei rhedeg mewn partneriaeth â Ffit Conwy, a ddyluniwyd i roi blas i gyfranogwyr ar yrfa yn y sector gweithgareddau. Yn ystod y cwrs, bu cyfranogwyr yn e-feicio, dringo, cerdded ac ogofa dan do, a chawsant hyfforddiant cyrsiau beicio a Chymorth Cyntaf gyda’r dewis o gofrestru ar gyfer cyrsiau hyfforddi ychwanegol.
  • Cafodd cwrs Pasbort i Adeiladu ei redeg gan Greu Menter i roi sgiliau ymarferol i gyfranogwyr ar gyfer gyrfa ym maes adeiladu, gan gynnwys hyfforddiant ardystiedig mewn Iechyd a Diogelwch, paratoi ar gyfer y prawf i gael eu cerdyn CSCS a sefyll y prawf hwnnw.
  • Cwrs hyfforddi hunan-amddiffyn/hunan-ymwybyddiaeth wedi’i ariannu’n llawn. Roedd y cwrs chwe wythnos yn cynnwys ymwybyddiaeth o ddiogelwch personol mewn bywyd bob dydd ac yn dangos technegau hunan-amddiffyn corfforol effeithiol a hawdd i’w cofio.
  • Gweithdai Cyflogadwyedd yng Ngwasanaeth Addysg Amgen Penrhos Avenue ac Arfordir y Rhyl sy’n cefnogi plant sydd bellach ddim yn ymrwymo mewn ysgol addysg prif ffrwd. Yn ogystal ag ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad, mae’r gweithdai hefyd yn dysgu sgiliau bywyd amhrisiadwy i gyfranogwyr o sut i wisgo ar gyfer cyfweliad a hyd yn oed sut i smwddio crys.
  • Ymweliadau rheolaidd i ysgolion ar draws y sir, canolfannau gwaith a’r Prosiect Hummingbird yn Abergele ynghyd â datblygu perthnasau gwaith agos gyda gwasanaeth Atal Digartrefedd Ieuenctid a Cynnydd sydd wedi sicrhau fod y Canolbwynt yn llwyddiannus iawn mewn cael cyfranogwyr ifanc i waith, coleg, prifysgol neu sefydlu busnes eu hunain.
end content