Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Croeso i'r Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy


Summary (optional)
start content

Croeso

Croeso i Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ar gyfer 2022-23.

"O’r diwedd gwelwyd ddiwedd ar yr holl gyfyngiadau Covid yng Nghymru ym Mai 2022 ond mae’r flwyddyn wedi parhau i fod yn her i bob un ohonom gyda chynnydd mewn biliau cyfleustodau sydd wedi arwain at y Costau Argyfwng Byw."

"Mae pawb wedi teimlo effaith y cynnydd, yn enwedig y rheiny ar incwm isel neu ar Gredyd Cynhwysol, ond rwy’n falch o’r ffordd y mae fy nhîm wedi ymateb i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cynnig cymorth ystyrlon. Mae busnesau a sefydliadau all gynnig cymorth ymarferol neu gefnogaeth ariannol wedi cael eu hymchwilio a defnyddiwyd y wybodaeth hwn i greu Pecyn Gwaith ar Gostau Byw i’w ddefnyddio gan ein mentoriaid a hefyd ei rannu gyda sefydliadau eraill. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau galw heibio Costau Byw llwyddiannus ledled y sir, gan wahodd sefydliadau perthnasol i fynychu i wneud yn siŵr, beth bynnag oedd y broblem i breswylwyr Conwy, y byddem yn gallu cynnig cefnogaeth a’u harwain nhw at gymorth ymarferol ac/neu at gymorth ariannol sydd ar gael.

Busnesau a recriwtio oedd gyda’r her fwyaf. Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd roedd mwy o swyddi gwag nag oedd o bobl yn chwilio am waith. Roedd hynny’n golygu cyfleoedd gwych i bobl oedd yn chwilio am waith, ond roedd hefyd yn ategu’r anghyfartaledd rhwng y sgiliau oedd ei angen ar gyfer swyddi a’r sgiliau yr oedd y rheiny’n chwilio am waith yn meddu arnynt. Roeddem eto yn sydyn i ymateb i hyn drwy fynd i bartneriaeth â busnesau a sefydliadau i redeg hyfforddiant yn benodol i’r sector, Llwybrau Recriwtio, sy’n gweithio ar wella sgiliau ein cyfranogwyr er mwyn gallu cyflawni anghenion yr economi leol. Hefyd ym mis Mai cynhaliwyd y Ffair Swyddi gyntaf i Gonwy ar gyfer yr holl sectorau, a Ffair Yrfaoedd ar gyfer pobl 16-24 oed ym mis Mawrth.

Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru felly bydd y flwyddyn o’n blaenau yr un mor brysur wrth i ni gefnogi a helpu preswylwyr Conwy i ddod o hyd i gyflogaeth sydd o bwys iddyn nhw.

Libby Duo
Rheolwr Strategol, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy

end content