Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Craffu Awgrymu pwnc i'w ystyried

Awgrymu pwnc i'w ystyried


Summary (optional)
Mae ein Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’n croesawu awgrymiadau am bynciau i’w hadolygu a byddant yn ystyried materion a gyflwynir gan unrhyw un sy’n byw, gweithio neu’n astudio ym Mwrdeistref Sirol Conwy.
start content

I fod yn gymwys, rhaid i geisiadau:

  • effeithio ar grŵp neu gymuned o bobl (ni fydd pwyllgorau trosolwg a chraffu fel arfer yn edrych ar gwynion am wasanaethau unigol)
  • ymwneud â gwasanaeth, digwyddiad neu fater o bwys arwyddocaol i'r Cyngor
  • ni all y ceisiadau gynnwys materion y mae'r pwyllgor wedi'u hystyried yn ystod y 12 mis diwethaf
  • ni all y ceisiadau gynnwys materion y mae Pwyllgor arall o'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn delio â nhw (e.e. materion cynllunio) ac eithrio pan fo'r materion yn ymwneud â phroses gwneud penderfyniadau'r Cyngor.

Cewch gydnabyddiaeth ein bod wedi derbyn eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd eich ffurflen awgrymiadau’n cael ei hystyried gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaeth sy’n gyfrifol am y mater yr ydych wedi ei godi.

Os penderfynir nad yw mater yn addas i’w ystyried, neu ei fod yn rhy debyg i bwnc sydd wedi ei ystyried yn ddiweddar, bydd Swyddog Cefnogi Craffu yn cysylltu â chi i esbonio wrthych pam nad yw wedi ei dderbyn.

 

end content