Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Strategaethau, Cynlluniau a Pholisïau Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd

Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael ei achredu i lefel uchaf Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ers 2014.
start content

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydyn ni'n gwneud nifer o weithgareddau sy’n cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd ac yn cydnabod bod gennym rôl flaenllaw i warchod a chynnal amgylchedd naturiol y sir.

I’n helpu ni leihau a rheoli'r effeithiau amgylcheddol negyddol ac i barhau i wella ein perfformiad amgylcheddol cadarnhaol, rydym wedi gweithredu Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ar draws ein holl wasanaethau.

Mae’r Ddraig Werdd yn cael ei gwirio’n annibynnol drwy asesiad blynyddol ac mae ein perfformiad amgylcheddol yn cael ei grynhoi yn yr adroddiad amgylcheddol blynyddol, sydd ar gael isod.

end content