Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hysbysiad Cosb Addysg


Summary (optional)
start content

Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Addysg o dan adran 444A a 444B Deddf Addysg 1996 (a gyflwynwyd gan Adran 23 Deddf Gwrth Gymdeithasol 2003) fel dull amgen o erlyn o dan Adran 444. Gall y rhieni/gofalwyr ryddhau atebolrwydd posibl am drosedd gollfarn o dan Adran 444 trwy dalu cosb.

Defnyddir y rhain yn bennaf fel cam i drin problemau presenoldeb yn gynnar cyn iddynt wreiddio, ond gallant gael eu defnyddio hefyd fel ymateb i absenoldeb heb awdurdod, gan gynnwys gwyliau heb awdurdod yn ystod y tymor ysgol neu fod yn hwyr yn barhaus (ar ôl cau cofrestr yr ysgol) sydd wedyn yn dod yn absenoldeb heb awdurdod. Pwrpas Hysbysiad Cosb Benodedig yw gwella presenoldeb ysgol.

 

Beth yw Hysbysiad Cosb Addysg?

  • Mae Hysbysiad Cosb Addysg yn gosb benodedig sy'n cael ei chyhoeddi i rieni am absenoldeb heb awdurdod eu plant o'r ysgol.
  • Gall yr awdurdod lleol, ysgolion neu'r heddlu eu cyhoeddi, er yng Nghonwy mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn cyhoeddi hysbysiad cosb ar ran yr asiantau hyn.
  • Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn gosod cosb benodedig ar bob rhiant. O 1 Medi 2013 lefel y gosb yw £60 sy'n codi i £120 os na fydd wedi'i thalu ar ôl 28 diwrnod.
  • O'i dalu bydd atebolrwydd cyfreithiol y rhiant am y cyfnod perthnasol o absenoldeb yn cael ei ddileu ac ni ellir erlyn ef neu hi am y cyfnod o absenoldeb dan sylw. 

 

Esiamplau o bryd y gellir cyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig:

  • Pan fo o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) wedi'i golli oherwydd absenoldeb heb awdurdod yn ystod y tymor presennol. Nid oes rhaid iddo fod yn olynol; neu
  • Absenoldeb heb awdurdod o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) oherwydd gwyliau yn ystod y tymor neu oedi cyn dychwelyd o wyliau estynedig.
  • Bod yn hwyr yn barhaus (h.y. mae absenoldeb heb awdurdod yn cael ei greu ar ôl i'r gofrestr gau). Mae "Parhaus" yn golygu o leiaf 10 sesiwn (5 diwrnod ysgol) neu gyrraedd yn hwyr yn ystod y tymor presennol.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr a bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.

 

Pwy all gael Hysbysiad Cosb Benodedig?

  • Mae'r drefn hon yn berthnasol i rieni/gofalwyr plant o oed ysgol gorfodol sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhaliwyd, Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) a rhai sy'n mynychu darpariaeth amgen.
  • Fel gydag erlyniadau o dan Adran 444 Deddf Addysg 1996, gall hysbysiad cosb gael ei gyhoeddi i bob rhiant/gofalwr am y drosedd neu droseddau pob plentyn.
  • Gellir ond tynnu hysbysiad cosb yn ôl mewn amgylchiadau cyfyng iawn fel y nodwyd yng Nghod Ymddygiad Conwy.

 

Pryd wnaeth yr Hysbysiad Cosb Benodedig gychwyn?

  • Daeth yr Hysbysiad Cosb Benodedig i rym yn Ionawr 2015.

 

Talu'r Gosb

  • Mae trefniadau talu wedi'u nodi yn yr Hysbysiad Cosb.

RHYBUDD: NI DDERBYNNIR TALIAD HWYR. NI FYDDWCH YN CAEL EICH ATGOFFA.

 

Peidio talu Hysbysiad Cosb Addysg

  • Os na cheir taliad llawn o fewn 42 diwrnod gall y rhiant/gofalwr gael ei erlyn o dan s444(1) Deddf Addysg 1996 am beidio sicrhau presenoldeb ysgol rheolaidd disgybl o oed ysgol orfodol sydd wedi'i gofrestru.

 

Tynnu Hysbysiad Cosb Addysg yn Ôl

  • Efallai y bydd yr hysbysiad yn cael ei dynnu yn ôl gan Wasanaethau Addysg Conwy os dangosir na ddylai fod wedi'i gyhoeddi i chi neu heb ei gyhoeddi i chi yn ôl y cod ymddygiad lleol. Rhaid i chi gysylltu â Gwasanaethau Addysg Conwy cyn gynted ag y bo modd os ydych yn credu bod yr hysbysiad wedi'i gyhoeddi ar gam a gofyn iddo gael ei dynnu yn ôl a nodi pam eich bod yn credu bod yr hysbysiad wedi'i gyhoeddi ar gam. 
  • Bydd Gwasanaethau Addysg Conwy yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi i adael i chi wybod a yw'r hysbysiad wedi'i dynnu yn ôl. Os na fydd yr hysbysiad yn cael ei dynnu yn ôl ac nad ydych yn talu, byddwch yn agored i gael eich erlyn am y drosedd.

 

Cysylltu â ni:

Gwasanaethau Addysg
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Ffôn: 01492 575036
E-bost: addysg@conwy.gov.uk
end content