Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Harbwr, Angorfeydd a Docfeydd


Summary (optional)
Cyfleusterau a gwasanaethau yn Harbwr Conwy ac Angorfeydd Morglawdd Llandrillo-yn-Rhos
start content

Harbwr Conwy

Mae tref hanesyddol Conwy yn gartref i un o'r harbwrs cychod hamdden mwyaf yng Nghymru.

  • dros 400 o angorfeydd cychod hamdden a phontynau ar draws yr aber
  • mynediad hawdd i afon Conwy a Môr Iwerddon
  • fflyd pysgota bach
  • mentrau masnachol


Cyfleusterau a Gwasanaethau Harbwr Conwy

  • Codi’r Cychod i'r Dŵr (Gwanwyn) 11 – 12 Ebrill 2024

Mae Harbwr Conwy yn cynnig ystod eang o gyfleusterau i ddefnyddwyr yr harbwr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Maes parcio ar gyfer deiliaid trwydded
  • Safleoedd angori
  • Cyfleusterau storio cychod
  • Cardiau trydan
  • Cyfleusterau golchi a phŵer
  • Tacsi dŵr
  • Cwch harbwr amlbwrpas ‘Jac y Do’
  • Swyddfa harbwr gyda staff ymroddedig

Am fwy o wybodaeth am y cyfleusterau a'r gwasanaethau hyn, gweler Graddfa Ffioedd yr Harbwr 2024-25 (PDF, 514KB) neu cysylltwch ag Awdurdod Harbwr Conwy:

Rhif ffôn: 01492 596253
E-bost: harbwr@conwy.gov.uk

Argyfyngau yn unig: 07733012568


Cychod Sy’n Ymweld

Mae'n ofynnol i gychod sy'n ymweld â'r Harbwr gysylltu â Swyddfa'r Harbwr ar VHF Sianel 14 cyn mynd i mewn. Yna bydd angorfa neu bontŵn yn cael ei roi a'r ffi’n cael ei chasglu gan Gychwr yr Harbwr a fydd yn eich tywys. Os ydych yn cyrraedd dros nos, gellir talu hefyd gydag arian parod neu siec yn Swyddfa'r Harbwr y bore canlynol. Efallai y bydd taliadau yn amrywio yn ôl maint y cwch a hyd yr arhosiad.


Tacsi dŵr

Mae Clwb Mordeithio Gogledd Cymru yn gweithredu tacsi dŵr ym Moryd Conwy. Dylid cael gafael ar y gwasanaeth drwy alw’r Lansiad ar VHF Sianel 37 gan ddefnyddio arwydd galw 'Lansiad Clwb Mordeithio'.

Codir tâl bychan am bob taith ac mae'n rhaid talu ar y cwch. Am ragor o wybodaeth am amseroedd gweithredu, rhaglen y gaeaf a'r haf, ffioedd cyfredol, ymwelwch â gwefan Clwb Mordeithio Gogledd Cymru

Nodwch nad yw Awdurdod Harbwr Conwy yn gweithredu’r gwasanaeth hwn ac nid yw'n gallu defnyddio ei gychod gwaith ei hun ar gyfer y diben hwn.


Angorfeydd Morglawdd Llandrillo-yn-Rhos

Mae ardal angori ychwanegol yn gorwedd oddi ar yr arfordir ger Llandrillo-yn-Rhos, wrth ymyl y morgloddiau arfordirol. Gallwch weld golygfeydd Trwyn y Fuwch a'r Gogarth, neu yn syml, fynd ar fordaith ar hyd arfordir hardd Gogledd Cymru.

  • safle cysgodol
  • mynediad hawdd i ddŵr agored
  • cyfartaledd o chwe awr o amser hwylio ar un llanw


Gwneud cais

Os ydych yn gwneud cais am angorfa neu os ydych yn ddeiliad trwydded cyfredol, mae yna amodau cyffredinol y mae'n rhaid i chi eu dilyn er mwyn cynnal eich trwydded angori.  Gweler y dogfennau Amodau Cyffredinol am ragor o wybodaeth.

I wneud cais am angorfa yn Harbwr Conwy neu safle Angorfa Morglawdd Llandrillo-yn-Rhos, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais berthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y broses ymgeisio neu’r amodau cyffredinol ar gyfer y safleoedd hyn, cysylltwch ag Awdurdod Harbwr Conwy.

 

end content