Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelwch ar Gychod a Dyfrffyrdd


Summary (optional)
start content

Dyma wybodaeth am yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac wrth arfer morwriaeth dda er mwyn sicrhau defnydd diogel o fadau dŵr a dyfrffyrdd Conwy.

Mordwyo Diogel

Mae Rheoliadau Rhyngwladol ar gyfer Atal Gwrthdrawiadau ar y Môr ('Colregs') yn berthnasol i bob cwch sy'n mordwyo yn y sianel ddynesu. Nid yw’r rheoliadau hyn yn god ymarfer ond maen nhw’n rhan o gyfraith Prydain, ac mae cosbau sylweddol am beidio â chydymffurfio â nhw.

Mae'n ofynnol i bob cwch fordwyo yn y sianel ddynesu a’r Harbwr mewn modd diogel, a hynny wrth fod yn ofalus ac wrth ystyried pobl eraill. Mae dwy reol sy'n cael eu torri’n aml o ran Sianel Ddynesu Harbwr Conwy ac o fewn terfynau’r Harbwr: Rheol 6 - Cyflymder Diogel a Rheol 9 - Sianeli Cul.

Cyflymder Diogel

Mae'r rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cwch yn symud ymlaen ar gyflymder diogel bob amser, fel y gall gymryd camau priodol ac effeithiol er mwyn osgoi gwrthdrawiad, a’i atal o fewn pellter sy'n briodol i'r amgylchiadau ac amodau cyffredinol.

Cyflymder uchaf yr Harbwr yw 10 not.

Sianeli cul

Mae'r rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol y bydd pob cwch sy’n mynd ar hyd sianel gul neu sianel fordwyo, yn cadw mor agos at derfyn allanol y sianel neu'r sianel fordwyo ar ei ochr dde ag sy'n ddiogel ac yn ymarferol bosibl.

Mae'n rhaid i gychod sy’n mynd ymlaen tua'r môr i fyny’r sianel gadw'n gwbl glir o fwiau ochr chwith, gan adael digon o le ar gyfer llongau sy’n mynd tua’r môr ar eu hochr chwith, a rhaid cadw'n agos at fwiau ochr dde. Rhaid i longau sy’n mynd ymlaen i lawr y sianel tua'r môr wneud y gwrthwyneb. Dylai pob llong sy’n mynd ymlaen i wahanol gyfeiriadau yn y sianel bob amser basio ei gilydd o’r chwith i’r chwith.

Gwybodaeth Diogelwch Cyffredinol

Mae diogelwch ar gychod a badau dŵr eraill yn hollbwysig.

Cofiwch cyn cychwyn i:

  • wirio bod eich cwch yn barod ar gyfer y daith a gyda’r cyfarpar diogelwch priodol a digon o gyflenwadau
  • gwneud yn siŵr y gall eich criw hefyd wneud y daith - meddyliwch am eu profiad a'u gallu corfforol
  • gwirio siart cyfredol a llyfr peilot cyfredol neu almanac fel eich bod yn gyfarwydd â ble rydych chi'n mynd ac unrhyw beryglon posibl
  • gwirio’r tywydd
  • gwybod sut i lywio eich hun i ddiogelwch os yw eich offer system lleoli byd-eang (GPS) yn methu
  • cael cynllun wrth gefn a meddwl am ble allech gymryd lloches os yw amodau’n gwaethygu neu os yw rhywbeth yn mynd o'i le

Am fwy o wybodaeth am ddiogelwch ar fadau dŵr, ewch i:

end content