Lansio eich cwch
Os hoffech lansio eich cwch neu fad arall ar arfordir Conwy, dyma wybodaeth ynglŷn â pha gamau y dylech eu cymryd i sicrhau y gallwch lansio yn ddiogel ac yn gyfreithlon:
Safleoedd lansio cyhoeddus i gychod
Mae’r llithrfeydd canlynol ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio i lansio. Nid yw llithrfeydd na rampiau mynediad sydd wedi’u lleoli ar safleoedd heblaw’r rhai a restrir uchod wedi’u hawdurdodi i’r cyhoedd eu defnyddio, ac maent yn destun trefniadau arbennig.
Porth Eirias, Bae Colwyn
- Ar gael i lansio cychod pŵer, di-bŵer a badau personol.
Llithrfa Aberhod, Bae Colwyn
- Ar gael i lansio cychod di-bŵer yn unig. Llithrfa yn caniatáu mynediad i’r traeth ar gyfer lansio cychod di-bŵer.
Llithrfa’r Beacons, Morfa Conwy
- Ar gael i lansio cychod pŵer, di-bŵer a badau personol.
Llithrfa Penmaenmawr
- Defnyddir hon yn bennaf gan Glwb Hwylio Penmaenmawr, ond mae hefyd ar gael i lansio cychod pŵer a di-bŵer (dim badau personol). Oherwydd bod lle yn brin, dim ond 10 lansiad y dydd a ganiateir i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r clwb. Caiff trigolion Penmaenmawr ac aelodau Clwb Hwylio Penmaenmawr gofrestru a lansio am ddim. Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio.
Llithrfa Llanfairfechan
- Ar gael i lansio cychod pŵer a di-bŵer yn unig. (Ni chaniateir badau personol oherwydd bod yna grwynau peryglus dan y dŵr). Cofrestru a lansio am ddim i aelodau Clwb Hwylio Llanfairfechan yn unig. Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio neu ddal trwydded dymhorol.
Llithrfa Venue Cymru, Traeth y Gogledd, Llandudno
- Defnyddir hon yn bennaf gan Glwb Hwylio Llandudno, ond mae hefyd ar gael i lansio cychod pŵer a di-bŵer (dim badau personol). Oherwydd bod lle yn brin, dim ond 10 lansiad y dydd a ganiateir i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r clwb. Rhaid i ymwelwyr gofrestru a thalu’r ffi lansio. Gellir storio trelars ar y cerrig mân ond rhaid parcio cerbydau oddi ar y promenâd.
Parcio
Caiff unigolion sy’n dal trwydded lansio dymhorol ddilys barcio eu cerbyd am ddim ym maes parcio’r Beacons a Llithrfa Porth Eirias. Nid yw’r consesiwn hwn yn berthnasol i unrhyw faes parcio arall a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Giatiau Storm
Gallai cau’r giatiau storm yn ystod gweithdrefnau gweithredol effeithio ar fynediad at lithrfeydd. Nid oes cyfyngiadau giatiau ar lithrfeydd y Beacons na Phenmaenmawr ac fe allent gynnig safle lansio arall.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich llong ar gyfer lansiad neu brynu trwydded dymhorol yma: