Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Strategaeth toiledau lleol


Summary (optional)
start content
Mae Conwy yn gartref i 118,200 o breswylwyr, gyda 29% yn 65 oed a hŷn a 2% yn 2 oed neu iau. Ar hyn o bryd mae 48 o doiledau cyhoeddus a reolir gan y Cyngor a 3 o doiledau cyhoeddus a redir gan gynghorau tref a chymuned, sy’n cynnwys 41 o doiledau anabl a 22 o gyfleusterau newid babis.

Mae 18 busnes ledled Sir Conwy sy’n rhan o’r Cynllun Toiledau Cymunedol, ac sy’n derbyn cyllid gan yr Awdurdod Lleol i wneud eu cyfleusterau toiled yn hygyrch i’r cyhoedd, heb orfod prynu.

Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu na chynnal toiledau cyhoeddus eu hunain. Mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus trwy ddarpariaeth uniongyrchol neu weithio gyda busnesau preifat i wneud cyfleusterau ar gael i’r cyhoedd.

Gyda llai o gyllid ar gael ar gyfer darparu’r gwasanaeth o 2023/24 byddwn yn chwilio am ffyrdd o barhau i ddarparu toiledau cyhoeddus yng Nghonwy ar sail cost niwtral.

Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:
  • Archwilio cyfleoedd i drosglwyddo cyfrifoldeb am doiledau cyhoeddus i gynghorau tref a chymuned. Bydd hyn yn galluogi i gyfleuster aros ar agor yn hytrach na gorfod cau. Caiff ymgynghoriad ei gynnal gydag Aelodau Lleol a’r Cyngor Tref a Chymuned cyn cau unrhyw gyfleusterau.
  • Cydweithio i wneud y cyfleusterau mewn adeiladau presennol y Cyngor ar gael i’r cyhoedd. Mae’r safleoedd hyn wedi’u lleoli o amgylch Conwy ac yn cynnwys canolfannau hamdden, canolfannau ymwelwyr, neuaddau tref, theatrau a llyfrgelloedd. 
  • Ymgysylltu gyda busnesau lleol a’u hannog i wneud eu cyfleusterau ar gael i’r cyhoedd.
  • Adolygu’r Cynllun Toiledau Cymunedol gyda’r golwg o wella ansawdd ac ystod y cyfleusterau sydd ar gael gan fusnesau sydd wedi cofrestru ar y cynllun.
  • Adolygu’r trefniadau codi tâl presennol ac ystyried mwy o gyfleusterau â thâl lle bo’n briodol.
  • Gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid grant er mwyn gwella’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yng Nghonwy. 
  • Annog y defnydd o logo toiledau cyhoeddus cenedlaethol ymhob safle lle mae toiledau ar gael ar gyfer y cyhoedd.

Cymeradwywyd Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Conwy gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2023, a bydd adroddiad cynnydd interim yn cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi 2 flynedd ar ôl cymeradwyo’r Strategaeth.

Dogfennau

Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (PDF, 0.8MB)

end content