Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pwll Padlo Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.

Y wybodaeth ddiweddaraf am byllau padlo:  Bydd ein pyllau padlo'n ailagor ar gyfer tymor yr haf yn dilyn gwaith adnewyddu.

Ger llyn mawr, parc plant a Llecyn Gemau Amlddefnydd, mae hwn yn bwll petryal traddodiadol sy’n mesur 17m x 6m, ac sy’n 0.6m o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf. Gyda golygfeydd anhygoel tua Bangor ac Ynys Môn, mae'r pwll padlo'n fan delfrydol i fwynhau diwrnod hamddenol braf. Mae byrddau picnic gyda seddi ar gael ac mae’r ffens derfyn ddiogel o’i amgylch yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i rieni. Mae yna gaffis a chludiant cyhoeddus o fewn pellter cerdded, gyda dewis o siopau coffi hefyd o fewn y dref.

Lleoliad

Pwll Padlo Llanfairfechan, West Shore Road, Llanfairfechan, Conwy LL33 0DA.

end content