Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pwll Padlo Penmaenmawr


Summary (optional)
start content

Mae ein pyllau padlo ar gau ar hyn o bryd, wrth i ni wneud gwaith i’r huwchraddio.

Y wybodaeth ddiweddaraf am byllau padlo:  Bydd ein pyllau padlo'n ailagor ar gyfer tymor yr haf yn dilyn gwaith adnewyddu.

Yng nghanol ardal syfrdanol o hardd ar arfordir gogledd Cymru, dafliad carreg o’r A55.  Gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae pwll padlo Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn i ymwelwyr a’r bobl leol fel ei gilydd. Mae’r pwll padlo traddodiadol ar siâp diemwnt ac mae’n mesur 11m x 8m.  Mae’n 1 droedfedd / 0.3 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf, ac mae hefyd yn cynnwys rhaeadr.

Gallwch fynd at y pwll padlo ar droed o’r briffordd drwy fynd ar hyd tanffordd, neu os ydych chi’n gyrru, mae yna rywfaint o fannau parcio ar un pen i’r promenâd.

Mae’r ‘Caffi Glan Môr' wedi’i leoli 50 llath yn unig o’r pwll padlo, ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos o fis Mawrth i fis Tachwedd, gan gynnig amrywiol fwydlenni megis brecwast trwy’r dydd, dewisiadau heb glwten, gamwn a sgampi, i enwi ychydig yn unig.  Mae'n cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer y gallwch eu hyfed yn y caffi neu’r tu allan yn yr haul. Ar y diwrnodau heulog, poeth hynny gallwch brynu hufen iâ, lolis iâ a llawer mwy. Gallwch hefyd logi’r caban gwyliau gerllaw am y dydd – ewch draw i siarad â pherchnogion y caffi am ragor o wybodaeth. Mae parc i blant gerllaw sy’n cynnwys nifer o wahanol offer chwarae. Er diogelwch ychwanegol, mae ffens derfyn o amgylch y parc.

Lleoliad

Pwll Padlo Penmaenmawr, Beach Road, Penmaenmawr, Conwy LL34 6AZ.

end content