Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Torri Glaswellt


Summary (optional)
Ymylon priffyrdd
start content

Pa laswellt fyddwn ni’n ei dorri?

Byddwn yn torri glaswellt ar dir sy’n berchen i'r Cyngor.  Mae hyn yn cynnwys parciau, gerddi a gwarchodfeydd natur.  Byddwn hefyd yn torri glaswellt ger priffyrdd – lleiniau glas ger llwybrau troed a ffyrdd, lleiniau canol ffyrdd a llinellau gweld ar gyffyrdd.  Rydym yn gyfrifol am dros 420 hectar (sef 4,200,200 metr sgwâr) o dir gwelltog. Nid ydym yn torri glaswellt preifat wrth ymyl llwybrau troed a ffyrdd

Pryd fyddwn ni'n torri'r glaswellt?

Caiff lleiniau ymyl priffyrdd mewn ardaloedd gwledig eu torri ddwywaith yn ystod y tymor tyfu, fel arfer ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf ac yna ym mis Medi neu fis Hydref. Caiff lleiniau ymyl ffyrdd mewn trefi a phentrefi eu torri fel arfer rhwng mis Mai a mis Hydref. Ni allwn roi dyddiadau penodol ar gyfer torri’r glaswellt gan ei fod yn dibynnu ar y tywydd a pha mor gyflym mae'r glaswellt yn tyfu. Caiff cefnffyrdd (ffyrdd sydd dan reolaeth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, fel yr A55 a’r A470) eu torri unwaith y flwyddyn. Mae rhai lleiniau ymyl ffyrdd yn cynnwys rhywogaethau o blanhigion neu fywyd gwyllt sy’n brin neu mewn perygl, ac yn y mannau hyn, byddwn yn torri’r glaswellt mewn ffordd sy’n addas i’r rhywogaethau hynny. Caiff yr ardaloedd hyn eu marcio â physt pren gyda llun clychau’r gog arnyn nhw.  Mewn parciau a gerddi, byddwn yn ceisio torri’r glaswellt bob pythefnos yn ystod y prif dymor tyfu (mis Ebrill i fis Medi).

Allwn ni dorri’r glaswellt yn amlach?

Na allwn, mae yna gyllideb gyfyngedig ar gyfer torri glaswellt. Rydym yn defnyddio’r gyllideb hon mor effeithlon ag y gallwn. Rhaid i ni ystyried cyfanswm ardal y glaswellt rydym yn gyfrifol amdano (dros 420 hectar) a’r amser y mae’n ei gymryd i’w gynnal a’i gadw.  

Pa fod y glaswellt mor hir?

Byddwn yn cadw at amserlen wrth dorri glaswellt ac mae yna gyfnodau pan fydd y glaswellt yn tyfu’n gyflymach rhwng cyfnodau torri. Gall tywydd ffafriol, fel arfer yn gynnar yn yr haf, achosi i laswellt dyfu'n gyflymach.

Pam fod yna bentyrrau mawr o doriadau glaswellt yn gorwedd ar ben y glaswellt?

Bydd swm y toriadau glaswellt yn amrywio yn dibynnu pa mor gyflym y bydd y glaswellt yn tyfu. Bydd hyn fel arfer yn lleihau wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen. Yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb, gall y glaswellt lynu at ei gilydd o dan y peiriannau torri, ac yna ddisgyn mewn clystyrau. Mae’r toriadau glaswellt yn creu tomwellt sy’n arafu twf y glaswellt.

Pam na chaiff toriadau glaswellt eu casglu a'u symud?

Ni fyddwn yn cael gwared ar y toriadau glaswellt yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Mae’r gwaith o gasglu a chludo glaswellt a’r peiriannau arbenigol sydd eu hangen i wneud hynny yn cymryd amser, yn ddrud ac yn anffafriol i'r amgylchedd.

Pan na fyddwn ni bob amser yn torri neu strimio’r glaswellt wrth fonion coed a rhwystrau?

Byddwn yn defnyddio’r peiriannau torri mwyaf posib i dorri’r glaswellt er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth mor effeithlon ag y gall fod. Ar rai mannau o laswellt, ni all y peiriannau hyn dorri’n ddigon agos at fonion coed a rhwystrau. Gall strimio o amgylch coed wneud difrod gan y gallai dynnu’r rhisgl.  Yn hytrach na strimio, byddwn yn defnyddio chwynladdwr sydd wedi’i gymeradwyo o amgylch coed a rhwystrau.

Pam fyddwn ni’n gadael i’r glaswellt dyfu i wahanol hyd mewn rhai mannau?

Mae hyn yn annog blodau a bywyd gwyllt i ddychwelyd i’n mannau gwyrdd. Mae’r modd y defnyddir y tir hefyd yn ein helpu i bennu pa mor hir y dylai’r glaswellt fod. Er enghraifft, mae angen glaswellt byrrach mewn parciau ffurfiol, a gadewir Gwarchodfeydd Natur Lleol yn fwy naturiol.

Pam fyddwn ni’n torri’r glaswellt pan mae’n wlyb?

Ni allwn aros am yr amodau perffaith i dorri glaswellt ar raddfa fawr. Byddwn yn gohirio’r gwaith torri os bydd yr amodau’n mynd mor ddrwg fel y gallem ni wneud difrod i’r arwyneb neu roi ein gweithwyr mewn perygl. Mae gohirio’r gwaith torri glaswellt yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau ac yn lleihau’r posibilrwydd o allu cyflawni'r nifer o doriadau sydd wedi'u cynllunio.

Rydw i’n byw ger ardal sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan y Cyngor, ac mae’r gweithwyr  yn cychwyn torri’r glaswellt yn gynnar yn y bore weithiau, a’r peiriannau’n gwneud cryn dipyn o sŵn. Pam na allan nhw weithio’n hwyrach yn y dydd?

Oherwydd swm y gwaith y mae’n rhaid i ni ei wneud i gynnal a chadw’r lleiniau glas, y mannau gwyrdd a’r parciau yn y sir, rhaid i ni gychwyn gweithio’n gynnar yn y dydd. Gofynnwn i’r criwiau beidio â chychwyn cyn 7am mewn ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw er mwyn amharu cyn lleied ag y gallwn ni.

Ga' i gynnal a chadw llain las wrth ymyl fy eiddo?

Na chewch, oherwydd y perygl posib o anaf i chi ac i draffig a cherddwyr sy'n pasio.

 

end content