Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref - cwestiynau a ofynnir yn aml

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref - cwestiynau a ofynnir yn aml


Summary (optional)
Mae’r Cyngor yn newid y ffordd mae’n rhedeg Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref o 1 Tachwedd 2017.
start content

Darllenwch drwy’r Cwestiynau a Ofynnir yn Aml hyn i wybod mwy am y newidiadau, a’r rhesymau y tu ôl iddynt. Os nad yw eich cwestiwn yma, defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen i adael i ni wybod.

Pam ydw i’n gorfod talu am waredu Gwastraff DIY ac Adeiladu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref?
Mae pridd, rwbel, bwrdd plastr, asbestos a deunydd DIY/adeiladu ar ôl gwneud gwaith, gwelliannau, atgyweirio, addasiadau a dymchwel yn eich cartref/eiddo domestig yn cael ei ystyried fel ‘gwastraff diwydiannol’ ac nid fel ‘gwastraff cartref’ ac nid yw’n ofynnol i’r Cyngor dderbyn y deunydd i’w gwaredu.

I gydnabod y ffaith bod trigolion weithiau’n creu’r math hwn o wastraff, mae’r Cyngor wedi penderfynu parhau i gynnig gwasanaeth, ond i gyflwyno ffi bach ar gyfer costau trin a gwaredu, fel y caniateir o dan ddeddfwriaeth gwastraff. Nid yw’r ffioedd ar gyfer gwneud elw.

Gwnaed y penderfyniad i gyflwyno ffioedd gan Gabinet Conwy ar 13 Rhagfyr 2016.
Onid yw Treth y Cyngor yn cynnwys gwaredu eitemau y codir tâl amdanynt?
Mae Treth y Cyngor yn cynnwys cost casglu, ailgylchu a gwaredu gwastraff cartref. Codir tâl am ddeunydd/gwastraff na ystyrir yn wastraff cartref ac felly nid yw’n dod o dan Dreth y Cyngor.
Pryd mae codi tâl mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn dechrau?
Dechreuir codi tâl am wastraff DIY ac Adeiladu o 1 Tachwedd 2017.
Pa eitemau y codir tâl amdanynt?
Mae ffioedd yn berthnasol i Wastraff DIY ac Adeiladu yn unig fel rwbel, pridd, brics, teils, bwrdd plastr, pren, ffitiadau ystafell ymolchi/cegin a fframiau ffenestri.

Bwriedir ffioedd ar gyfer cost gwaredu yn unig ac nid i wneud elw. Gellir dod o hyd i restr lawn o eitemau y codir tâl amdanynt yn yma.
Sut ddylwn i ddod â fy ngwastraff i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref?
Anogir chi i ddod â’ch gwastraff rhydd mewn sachau rwbel i’w gwneud yn haws cyfri’r ffi ar gyfer pridd/rwbel/cerrig.

Mae sach rwbel yn cyfateb i fag tywod/cerrig mân o storfeydd DIY safonol (neu debyg) y gellir eu codi’n ddiogel gan un person.

Bydd angen amcangyfrif ffioedd ar gyfer gwastraff a gyflwynir yn rhydd neu mewn sachau gwahanol faint. Mae penderfyniad y rheolwr safle ar yr union ffi a godir yn derfynol.
Sut ydw i’n talu?
Mae’r peiriannau talu ar y safle yn derbyn taliadau arian neu gerdyn ac yn cyflwyno derbynneb. Ni dderbynnir sieciau.

Os nad ydych yn gallu talu (er enghraifft rydych wedi gadael eich cerdyn debyd/credyd neu arian gartref), gofynnir i chi adael y safle gyda’ch gwastraff y codir tâl amdano a dychwelyd gyda modd o dalu. Caniateir i chi waredu unrhyw wastraff cartref yn rhad ac am ddim.
A oes unrhyw ollyngiad/eithriad ar gyfer yr henoed, pobl ar incwm isel neu bobl ag anableddau?
Na, mae pawb yn gorfod talu’r ffioedd. Mae’r costau wedi eu cadw mor isel â phosibl i bawb.
A oes unrhyw drefn arbennig ar gyfer gwaredu asbestos yn y safleoedd?
Gellir derbyn asbestos bond sment mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref. Dylid rhoi holl lenni cyfan yn ddiogel mewn llenni plastig a’u cludo’n gyfan. Dylid cynnwys darnau bach neu sydd wedi torri mewn bagiau dwbl a’u selio’n ddiogel. Osgowch dorri’r deunydd lle bo’n bosibl. Dylech ffonio’r safle ymlaen llaw i drefnu iddo gael ei dderbyn neu efallai na fyddwch yn gallu gwaredu eich asbestos bond sment. Ni dderbynnir unrhyw fath arall o asbestos.

I drefnu i waredu eich asbestos bond sment, ffoniwch:
Mochdre: 01492 547927
Gofer (Abergele): 01745 827555
A oes unrhyw drefn arbennig ar gyfer gwaredu bwrdd plastr mewn safleoedd?
Yn unol â llawer o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref eraill, nid ydym yn gallu derbyn llwythi cymysg, plastr neu wastraff sy’n cynnwys gypswm.

Mae’n rhaid i chi wahanu’r math hwn o wastraff cyn eich ymweliad (e.e. dylid tynnu teils neu goed o’r bwrdd plastr a’u gwaredu ar wahân).
A godir tâl arnaf am ddeunydd arall?
Gellir gwaredu’r rhan fwyaf o wastraff mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn rhad ac am ddim.
Ni chodir tâl ar drigolion sy’n dod â’u gwastraff cartref ei hunain, fel gwastraff gardd gwyrdd, eitemau trydanol, dodrefn, papur, cardbord, oergell/rhewgell, teledu, eitemau trydanol mawr a bach, bric-a-brac, plastig, poteli a jariau gwydr, metel sgrap, carped, paent, bylbiau golau, batris, tecstilau a gwastraff gweddilliol.

Mae rhestr lawn o eitemau yma.
Ydw i’n gorfod defnyddio canolfan ailgylchu gwastraff cartref?
Na, mae’r defnydd o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn ôl disgresiwn defnyddwyr y safle. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffi arfaethedig neu os oes gennych lawer o wastraff cartref, gallwch ystyried dulliau eraill fel llogi sgip neu fynd â’ch gwastraff i gwmni rheoli gwastraff preifat.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn gadael fy ngwastraff y tu allan i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref ac yn gwrthod talu?
Os ydych yn gadael gwastraff y tu allan i’r safle, rydych yn tipio’n anghyfreithlon. Mae hyn yn erbyn y gyfraith a gall gynnwys dirwy o hyd at £50,000 neu hyd yn oed ddedfryd o gaethiwed (carchar). Mae yna gamerâu cylch caeedig yn ymyl a rhoddir cyfarwyddyd i staff y safle gasglu tystiolaeth o unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon ar gyfer erlyniad posibl.

 

Os nad yw eich cwestiwn yn ymddangos yn y rhestr uchod, cysylltwch â ni gyda'ch ymholiad.

end content