Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer aelwydydd sy'n defnyddio llawer iawn o glytiau neu gynhyrchion anymataliaeth ac sy’n gweld nad oes ganddynt ddigon o le ar gyfer yr eitemau hyn yn eu bin olwynion.
Sut mae'n gweithio
- I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni yn affch@conwy.gov.uk neu 01492 575337
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn rhoi cadi casglu bach y gellir ei gloi, bagiau casglu a gwybodaeth am y gwasanaeth hwn. Ein nod yw y bydd y rhain yn eich cyrraedd chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Gallwch ddechrau defnyddio'r gwasanaeth hwn cyn gynted ag y byddwch yn cael bagiau a chadi. Rhowch y clytiau neu’r cynhyrchion anymataliaeth a ddefnyddiwyd yn y bagiau a chlymu'r bag unwaith y bydd yn llawn. Rhowch y bagiau yn eich cadi.
- Ar eich diwrnod casglu, rhowch y cadi ar ymyl y palmant erbyn 7:00. Bydd ein tîm yn gwagio eich cadi ac yn gadael bagiau newydd.
- Os nad ydych chi wedi gadael gwastraff allan am 8 wythnos, byddwn yn dod â’r gwasanaeth casglu i ben.
Mesuriadau'r bin:
- 43cm o uchder, 30cm o ddyfnder a 37cm o led.
- Capasiti: 40 litr.
Beth ydym yn ei gasglu
- Clytiau tafladwy
- Gwastraff newid clytiau, fel hancesi gwlyb, sachau clytiau a gwlân cotwm
- Cynnyrch anymataliaeth (padiau, tronsiau a dillad gwely)
NID YDYM yn casglu:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os nad oes angen y gwasanaeth hwn arnoch bellach, cysylltwch â'r Tîm Cynghori ar yr Amgylchedd drwy anfon neges e-bost afch@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575337.
Diwrnodau casglu
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener |
Pensarn |
Abergele |
Hen Golwyn |
Cyffordd Llandudno |
Llandudno |
Belgrano |
Rhyd-y-foel |
Llanelian |
Mochdre |
Craig-y-Don |
Towyn |
Llanddulas |
Bae Colwyn |
Capelulo |
Llanrhos |
Bae Cinmel |
Llysfaen |
Glan Conwy |
Dwygyfylchi |
Deganwy |
Llansan Siôr |
Betws-y-coed |
Graig |
Penmaenmawr |
Llandrillo-yn-Rhos |
Betws-yn-Rhos |
Capel Garmon |
Eglwysbach |
Llanfairfechan |
Bae Penrhyn |
Bont Newydd |
Capel Currig |
Gell |
Conwy |
Craigside |
Bryn Rhyd yr Arian |
Cerrigydrudion |
Tal-y-Cafn |
Gyffin |
Glanwydden |
Bylchau |
Cwm Penmachno |
Maenan |
Deganwy (rhan fwyaf o strydoedd) |
Deganwy (rhai strydoedd) |
Cefn Berain |
Dolwyddelan |
Llanddoged |
- |
|
Dolwen |
Glasfryn |
Trefriw |
- |
|
Groes |
Llanfair G.M |
Dolgarrog |
- |
|
Gwytherin |
Llangwm |
Tal-y-Bont |
- |
|
Llanfair T.H |
Llanrwst |
Llanbedr-y-Cennin |
- |
|
Llangernyw |
Melyn y Coed |
Caerhun |
- |
|
Llannefydd |
Penmachno |
Tyn-y-Groes |
- |
|
Llansannan |
Pentrefoelas |
Rowen |
- |
|
Nantglyn |
Rhydlydan |
Henryd |
- |
|
Pandy Tudur |
Ty Nant |
Ucheldir Colwyn |
- |
|
Pentre Isaf |
Ysbyty Ifan |
- |
- |
|
Rhos y Mawr |
- |
- |
- |
- |
Tan y Fron |
- |
- |
- |
- |