Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaethau Casglu â Chymorth


Summary (optional)
Os oes arnoch chi angen cymorth i symud eich cynwysyddion neu'ch bin ar eich diwrnod casglu, efallai eich bod chi'n gymwys i wneud cais am wasanaeth casglu â chymorth.
start content

Beth yw’r gwasanaeth casglu â chymorth?

Gallwn drefnu casglu â chymorth ar gyfer trigolion sy’n cael trafferth symud eu cynwysyddion a’u biniau i ymyl y palmant ar y diwrnod casglu.

Bydd hynny’n golygu y bydd criwiau casglu yn nôl eich cynwysyddion a’ch biniau o leoliad a gytunwyd arno y tu allan i’ch cartref ac yn mynd â nhw’n ôl wedyn. Ni fydd criwiau ailgylchu yn mynd i mewn i’ch cartref ac ni fyddan nhw’n didoli eich eitemau ar gyfer ailgylchu.

Os oes arnoch chi angen cymorth i ddidoli eitemau yn eich cartref, cysylltwch ffrind, aelod o’ch teulu, gofalwr, gweithiwr gofal neu weithiwr cymdeithasol.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn casgliad â chymorth?

Gallwch wneud cais am gasgliad â chymorth os nad ydych chi’n gallu symud eich cynwysyddion, ac:

  • Os nad oes gennych chi unrhyw un arall (perthynas, ffrind neu ofalwr) sy’n gallu’ch helpu chi symud y cynwysyddion wrth ymyl y palmant ar y diwrnod casglu
  • Os oes gennych chi fan addas i leoli’ch cynwysyddion sydd o fewn cyrraedd i’r criwiau
  • Os ydych chi’n cytuno i ddidoli’ch eitemau’n gywir ar gyfer ailgylchu

Sut ydw i’n gwneud cais?

Gallwch naill ai gyflwyno ffurflen gais ar-lein neu gallwch ei llwytho i lawr, ac anfon y ffurflen ar ôl ei llenwi yn ôl atom drwy e-bost neu drwy’r post (mae manylion ar y ffurflen). Ar ôl derbyn eich cais efallai bydd swyddog yn cysylltu â chi i’w drafod ymhellach a threfnu asesiad.

Os oes gennych chi danysgrifiad gwastraff gardd gyda Bryson, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i drefnu casgliad â chymorth ar gyfer eich bin brown.

Gallwch gysylltu Bryson ar 01492 555898 neu info@brysonrecycling.org

Gallwch ofyn am:

  • Casgliad â chymorth dros dro –  e.e. os ydych chi wedi cael anaf neu driniaeth (fel clun neu ben-glin newydd) ac nad ydych chi’n gallu symud eich cynwysyddion neu finiau ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i chi wella’n dda.

Gallwch ofyn am wasanaeth casglu â chymorth dros dro am 3, 6 neu 12 mis; neu

  • Casgliad â chymorth parhaol - Os oes arnoch chi angen cymorth i symud eich cynwysyddion ac os nad yw’ch amgylchiadau yn debygol o newid.

Rydym ni’n cadw’r hawl i ysgrifennu atoch chi bob dwy flynedd i ofyn i chi gadarnhau a oes arnoch chi dal angen y gwasanaeth. Gall methiant i ymateb, olygu efallai y bydd eich cynhwysyddion yn cael eu methu ar ddiwrnod eich casgliad.

Peidiwch ag ymgeisio:

  • Os oes gennych rywun arall megis aelod o’r teulu, ffrind, ofalwr neu weithiwr ofal sy’n gallu symud eich cynwysyddion at ochr y ffordd i chi.
  • Os nad oes gennych chi reswm da dros wneud hynny. Mae’r casgliad â chymorth ar gyfer pobl sydd wir yn cael trafferth symud eu cynwysyddion a’u biniau.
  • Os ydych chi’n mynd ar wyliau neu'n gweithio i ffwrdd yn aml. Holwch aelod o’ch teulu, ffrind neu gymydog a ydynt yn fodlon mynd â'ch cynwysyddion a'ch biniau i ymyl y palmant.
  • Os ydych chi’n byw mewn lle gwyntog, cliciwch yma i ddarllen canllawiau ar gyfer ailgylchu pan fo tywydd gwael neu, fel arall, llenwch ein ffurflen ar-lein i drafod eich pryderon.

Ffurflen Gais a Thaflen Casgliad â Chymorth (PDF)

end content